Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Luton

  • Cyhoeddwyd
Harry CornickFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Peniad Harry Cornick oedd unig gôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Cafodd Caerdydd eu trechu gartref gan Luton yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Llun.

Bu'n rhaid disgwyl 71 munud am unig gôl y gêm, wrth i Harry Cornick benio Luton ar y blaen o groesiad Robert Snodgrass.

Er i'r Adar Gleision gae cyfleoedd trwy Jordan Hugill ac Isaak Davies ymysg eraill, ni lwyddon nhw i ganfod cefn y rhwyd.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn aros yn y 17eg safle yn y Bencampwriaeth.