Y Bencampwriaeth: Reading 4-4 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Abertawe setlo am gêm gyfartal ar ôl taflu mantais o dair gôl i ffwrdd oddi cartref yn Reading ar ddydd Llun y Pasg.
Cafodd yr Elyrch y dechrau gwaethaf posib, gyda Lucas João yn rhwydo o'r smotyn i Reading wedi tri munud yn dilyn trosedd gan Joël Piroe ar Josh Laurent.
Ond llwyddodd yr ymwelwyr i daro 'nôl yn syth wrth i Hannes Wolf grymanu ergyd arbennig i gefn y rhwyd wedi chwe munud.
Bum munud yn ddiweddarach roedd Abertawe ar y blaen - Piroe yn sgorio'r tro hwn gydag ergyd wych arall.
Ychwanegodd Piroe ei ail ar drothwy hanner amser, gan sgorio o'r smotyn wedi trosedd ar Michael Obafemi yn y cwrt cosbi.
Aeth yr Elyrch ymhellach ar y blaen wedi bron i awr o chwarae wrth i Piroe roi gôl ar blât i Obafemi, cyn i Tom Ince rwydo i'r tîm cartref i'w gwneud hi'n 2-4.
Gydag 20 munud yn weddill daeth Reading yn ôl o fewn un gôl i Abertawe wedi i João sgorio ei ail, cyn i Tom McIntyre rwydo i'w gwneud yn gyfartal gyda 95 munud ar y cloc.
Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Elyrch yn aros yn y 13eg safle yn y Bencampwriaeth.