Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-0 Altrincham
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cadw eu gobeithion o orffen ar frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr wedi iddyn nhw roi cweir i Altrincham brynhawn Llun.
Cafodd y Cymry'r dechrau gorau posib, wrth i ansicrwydd yn y cwrt cosbi o dafliad hir Ben Tozer arwain at Jordan Davies i sgorio wedi dim ond tri munud.
Dyblwyd mantais y tîm cartref wedi hanner awr o chwarae, gyda Paul Mullin yn penio i'r rhwyd o gic gornel Luke Young.
Roedd hi'n 4-0 erbyn hanner amser, gyda Mullin yn sgorio ei ail cyn i Ollie Palmer ganfod cefn y rhwyd i'r Dreigiau.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam, fu'n cael eu cefnogi gan dorf o dros 10,000 ar y Cae Ras ddydd Llun, yn aros yn yr ail safle yn y tabl.
Yn anffodus i'r Cymry, fe sgoriodd Stockport gôl funud olaf i drechu Solihull Moors, sy'n golygu bod eu mantais ar frig y tabl - a'r unig safle dyrchafu awtomatig - yn parhau'n saith pwynt.