Tocyn trên yn gostwng hyd at 50% am gyfnod o fis

  • Cyhoeddwyd
gorsaf dren caerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cost tocynnau trên drwy'r DU yn gostwng hyd at 50% am gyfnod o fis fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU.

Y gobaith ydy gwneud teithio yn fwy fforddiadwy a rhoi hwb i dwristiaeth ddomestig dros gyfnod y gwanwyn.

Bydd pris tocyn trên o Gaerdydd i Lundain sy'n £47 fel arfer yn gostwng i £25.

O'r gogledd i'r de, bydd siwrne o Gaergybi i Gaerdydd sydd fel arfer yn costio £36 yn gostwng i £18.

O'r gorllewin i'r dwyrain fe fydd taith o Gaerfyrddin i'r Fenni yn gostwng o £17 i £8.

Bydd tocyn o Gaerdydd i'r Amwythig, lle mae'n aml rhaid newid er mwyn teithio drwy Gymru, yn disgyn o £24 i £12.

Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Grant Shapps, bydd gostyngiad pris i dros filiwn o docynnau.

Daw hyn fis wedi'r cynnydd mwyaf i gost tocynnau trên yng Nghymru a Lloegr mewn naw blynedd, gyda phrisiau yn codi hyd at 3.8%.

Mae llai o bobl yn teithio ar y trên o gymharu â chyn y pandemig.

Roedd yna 285 miliwn o siwrneiau rheilffordd ym Mhrydain yn ystod tri mis olaf 2021, sef 62% o'r lefel cyn y cyfnod clo.

Mae modd prynu'r tocynnau o ddydd Mawrth ar gyfer siwrneiau rhwng 25 Ebrill a 27 Mai.

Fe wnaeth ymgyrchwyr trafnidiaeth groesawu'r cynllun dros dro, ond maen nhw'n dadlau o blaid lleihau costau ymhellach.