Ffoadur o Syria i ailhyfforddi fel athrawes yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffoadur o Syria a ddaeth i Gymru ddwy flynedd yn ôl yn gobeithio ailddechrau ar ei gyrfa fel athrawes yn ei chartref newydd.
Mae Inas Alali, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn gobeithio bod yn esiampl dda i'w phlant a "menywod eraill sy'n rhoi stop ar eu bywydau wrth newid eu gwlad".
Fe gafodd fenthyciad sy'n galluogi ffoaduriaid sydd â chymwysterau proffesiynol i ailhyfforddi, gyda help Cymdeithas Syriaid Cymru.
"Hoffwn i barhau â fy mywyd," meddai Ms Alali, 39.
Yn Syria, roedd hi'n dysgu Mathemateg a Saesneg i blant am 16 o flynyddoedd.
Roedd Ms Alali yn byw gyda'i gŵr, Wardan Alkoko a'u dau o blant Azza, 13, ac Abd Alrazak, 8, yn ninas Hama yng ngorllewin y wlad.
Ond bu farw ei gŵr yn 42 oed ar ôl cael canser, a hynny tra'r oedd rhyfel yn eu gwlad.
"Roedd e mor falch ohonof i a dwi'n gweld ei eisiau'n fawr," dywedodd Ms Alali.
Mae disgwyl iddi ddechrau ar ei chwrs hyfforddi yn yr hydref ac mae hi'n gobeithio dysgu Mathemateg i blant yng Nghymru yn y pendraw.
Cafodd fenthyciad gwerth £7,000 gan RefuAid, trwy broses ddethol oedd yn cynnwys llenwi ffurflenni a mynychu cyfweliadau.
Bydd yr arian yn talu am ddwy flynedd o hyfforddiant iddi.
'Eisiau cyfrannu at gymdeithas'
Dywedodd is-gadeirydd Cymdeithas Syriaid Cymru, Dr Hussein Halabi fod meddygon, cyfreithwyr ac athrawon a ddaeth i'r DU fel ffoaduriaid eisiau "dychwelyd i'r swyddi roedden nhw'n arfer eu gwneud".
"Maen nhw eisiau talu, cyfrannu at gymdeithas, y gymdeithas Gymreig, y gymdeithas Brydeinig ehangach," meddai.
"Maen nhw angen rhyw fath o gefnogaeth i ailgymhwyso... dyna pam mae'r benthyciad yn bwysig."
Dywedodd Ms Alali: "Byddwn i'n hoffi parhau â fy mywyd. Byddwn i'n hoffi bod yn esiampl, yn gyntaf i fy mhlant, i fod yn berson da yn y wlad hon.
"Fel ffoadur dwi'n meddwl eich bod yn gallu cael pasbort Prydeinig mewn chwe blynedd, ond dwi'n meddwl bod angen i chi haeddu cael y pasbort Prydeinig hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019