Gwobr i ffoadur o Syria am ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Mohamad KarkoubiFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mohamad wedi bod yn dysgu'r iaith ers mis Medi 2018

Mae ffoadur o Syria sydd wedi gwneud cartref newydd i'w hun yng Nghymru wedi ennill gwobr am ddysgu Cymraeg.

Bedair blynedd yn ôl daeth Mohamad Karkoubi gyda'i deulu - gwraig a thri o blant ifanc - i Aberystwyth fel rhan o gynllun croesawu ffoaduriaid.

Cafodd gwobrau 'Cymru - Cenedl Noddfa' eu cyflwyno am y tro cyntaf yn gynharach yn y mis i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi rhagori mewn gwahanol feysydd gan gynnwys y celfyddydau, dysgu iaith, gwirfoddoli a'r byd busnes.

Mohamad enillodd y wobr am ddysgu Cymraeg.

Disgrifiad,

Mae Mohamad Karkoubi yn gallu ymarfer ei Gymraeg yn y gwaith

Mae e wedi bod yn dysgu ar gwrs mynediad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ers mis Medi'r llynedd.

Yn ystod y flwyddyn mae e wedi mynychu gwersi yn Aberystwyth ddwywaith yr wythnos ac ym mis Mawrth fe aeth ar gwrs penwythnos Cymraeg i'r Teulu yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

"Dwi'n hoffi dysgu Cymraeg," meddai Mohamad, "dwi'n dod o Aleppo yn Syria yn wreiddiol ond nawr dwi'n byw yn Aberystwyth ac yn gweithio fel gof yn Nhregaron. Dwi'n hoffi bod yn Nhregaron."

'Mae'n bleser ei glywed e'

Weldiwr oedd Mohamad yn Aleppo, a weldio yw ei brif waith yng nghwmni D.A. Rees, yn helpu cynhyrchu trelars i ffermwyr.

"Mae e wedi gweithio'n dda chwarae teg iddo fe - ac mae e'n codi geiriau bob dydd," meddai Steve Tandy, un o gydweithwyr Mohamad yn y gweithdy weldio.

"Ry'n ni'n treial ein gorau i ddysgu geiriau newydd iddo fe bob dydd ac mae'n bleser ei glywed e.

"Mae e wedi dod o wlad bell a dod aton ni fan hyn, ac ry'n ni'n trio ei wneud e'n gartrefol. Mae ei weldio fe yn spot on hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mohamad Karkoubi yn gweithio i gwmni sy'n cynhyrchu trelars i ffermwyr

Daeth Mohamad a'i deulu i Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2015.

Roedd Ceredigion ymhlith y siroedd cyntaf yng Nghymru i groesawu ffoaduriaid.

Dywedodd ei fod am ddysgu Cymraeg yn ogystal â Saesneg gan fod ganddo ffrindiau sy'n siarad y ddwy iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mohamad a'i deulu yn mwynhau hufen ia ar y prom yn Aberystwyth, ble maen nhw bellach yn byw

Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Ceredigion am ei helpu i setlo yn Aberystwyth ac i'w diwtor Cymraeg, Rob Dery, ac i bawb sy'n ei helpu i ddysgu.

Dywedodd Elin Williams, Cydlynydd Hyfforddiant, Ansawdd a Chwricwlwm y Ganolfan Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys a Sir Gâr: "'Da ni'n hynod o falch o Mohamad - mae e wedi gwneud gymaint o ymdrech dros y flwyddyn ddwetha' i fynd i'r dosbarthiadau, ac mae e hefyd wedi cael y cyfle i gymhathu a defnyddio'r iaith yn ei waith.

"Mae Mohamad yn esiampl wych bod ein gwersi ni, a'r Gymraeg, ar gael i bawb beth bynnag fo'u cefndir.

"Dros Gymru i gyd mae ffoaduriaid yn dysgu - mae 40 o geiswyr lloches a ffoaduriaid wedi cael gwers yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

"Pwy bynnag sy'n dod mewn i Gymru mae croeso mawr i ddod i'n gwersi ni."