Heddlu'n trin marwolaeth dynes ym Môn fel un 'amheus'

  • Cyhoeddwyd
Ceir heddlu ym Maes Gwelfor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo ym Maes Gwelfor, Rhyd-wyn, ddydd Gwener

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cynnal ymchwiliad wedi i ddynes gael ei darganfod wedi marw mewn eiddo ar Ynys Môn.

Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo ym Maes Gwelfor ym mhentref gogleddol Rhyd-wyn "yn gynharach" ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod yn trin y farwolaeth "fel un amheus ac mae un person yn y ddalfa ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r digwyddiad".

Pwysleisiodd y llefarydd bod yr ymchwiliad ond newydd gychwyn a bod swyddogion yn "archwilio pob trywydd ar hyn o bryd".

Mae'r llu'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig