Y Bencampwriaeth: Sheffield United 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Iliman NdiayeFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli oedd hanes yr Adar Gleision oddi cartref yn erbyn Sheffield ddydd Sadwrn.

Caerdydd oedd â'r cyfle gorau yn yr hanner cyntaf, gyda ymdrech Max Watters yn agos at gyrraedd cefn y rhwyd.

Ond ddaeth y gôl ddim a'r sgôr ar yr hanner yn 0-0.

Yr unig un lwyddodd oedd ymdrech Ndiaye o'r tîm cartref ychydig funudau wedi'r ail hanner, a hynny'n sicrhau buddugoliaeth i Sheffield United.

Mae Caerdydd yn syrthio i safle 19 ar y tabl ond yn sicrhau lle yn y bencampwriaeth y tymor nesaf.