Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 19-38 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Ben Fry yn pasio'r bêlFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Ar ôl ennill yn erbyn y Scarlets oddi cartref yr wythnos diwethaf, roedd y Dreigiau wedi gobeithio am fuddugoliaeth arall.

Ond morio canu Sosban Fach oedd y dorf gyda bysiau o'r gorllewin yn dathlu gêm o geisiau i'r Scarlets.

Sam Lousi o'r Scarlets gafodd y cyntaf ac Angus O'Brien funudau wedyn.

Cafodd cerdyn melyn ei roi i Steff Evans am fwrw'r bêl ymlaen yn fwriadol cyn i Ryan Elias lwyddo i groesi'r linell ag ond 14 ar y cae.

Daeth y Dreigiau'n ôl wrth iddyn nhw ddal eu tir a'r bêl yn eu dwylo fwyafrif y gêm a chais i Jack Dixon cyn hanner amser.

Scarlets oedd ar y blaen ar yr hanner felly o 12-17.

Taro'n ôl wnaeth y tîm cartref yn fuan wedi dechrau'r ail hanner gyda chais i Jordan Williams ac Aaron Warren a'r Dreigiau'n parhau i gwrso.

Ond doedd dim stop ar y Scarlets wedi hynny gyda thri chais gan Rob Evans, Corey Baldwin ac Angus O'Brien yn sicrhau tipyn o fuddugoliaeth.

Mae'r Cochion yn dychwelyd i'r gorllewin gyda phwynt bonws hefyd.

Pynciau cysylltiedig