Arafwch rhyddhau carcharor Yemen yn 'rhwystredig iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gaerdydd wedi beirniadu'r Swyddfa Dramor am yr hyn mae'n ei alw'n ddiffyg ymdrech i sicrhau rhyddid Prydeinwyr sy'n cael eu carcharu ar gam.
Roedd Kevin Brennan yn ymateb ar ôl i deulu un o'i etholwyr glywed ei fod ar fin cael ei ryddhau o garchar yn Yemen bum mlynedd ar ôl cael ei arestio.
Mae disgwyl i Luke Symons, sydd wedi mabwysiadu'r enw Jamal ers iddo symud i fyw i Yemen, ddychwelyd i Gaerdydd dros y dyddiau nesaf.
Cafodd ei gadw mewn cell ar ei ben ei hun am gyfnodau hir heb unrhyw dystiolaeth o'r honiad ei fod yn ysbïwr.
Yn ôl Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, mae gwledydd fel Ffrainc a'r Unol Daleithiau yn llawer iawn mwy llwyddiannus wrth gael eu dinasyddion yn ôl adref o garchar.
"Mae'n rhwystredig iawn. Mae pum mlynedd yn amser hir ym mywyd ifanc Luke Symons.
"Mi gafodd ei arestio am fod ganddo basbort Prydeinig ac yn ystod ei gyfnod yn y carchar mae na bum Ysgrifennydd Tramor wedi cael eu penodi gan gynnwys y prif weinidog presennol ar un adeg.
"Yn ystod y cyfnod mae wedi bod yn rhwystredig i wylio America a Ffrainc yn dod a charcharorion yn ôl adref."
Roedd Luke Symons wedi priodi yn Yemen ac mae ganddo fab, ac roedd y tri yn ceisio gadael am Gymru pan gafodd ei arestio yn 2017.
Mae Mr Brennan ac AS o Lundain sy'n cynrychioli Nazanin Zaghari-Ratcliffe - dreuliodd gyfnod hir mewn carchar yn Iran - wedi pwyso ar un o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin i gynnal ymchwiliad i dactegau Llywodraeth y DU.
"Mae'r pwyllgor Seneddol ar faterion tramor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad," meddai, "a dwi'n gobeithio y cawn ni fynd at wraidd y cwestiwn, pam nad ydy Prydain yn llwyddo i gael eu pobl allan yn gynt?"
'Newyddion anhygoel'
Yn ôl Amnest Rhyngwladol mae'r Cymro wedi bod yn cael ei gadw dan amgylchiadau caled iawn.
"Mae hyn yn newyddion anhygoel," meddai Eilidh Macpherson o'r elusen.
"Mi deimlwn y rhyddhad pan fydd Luke yn cyrraedd Caerdydd. Dylai hyn ddim fod wedi digwydd ond mae'n newyddion gwych fod y teulu o'r diwedd am gael dathlu cyfiawnder.
"Rydyn ni yn credu iddo gael ei gadw am ddim rheswm ond fod ganddo basbort Prydeinig, a dydyn ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn.
"Rydyn ni wedi clywed adroddiadau gan ei deulu na chafodd Luke ofal meddygol drwy'r adeg, nad oedd y teulu wedi cael mynd i'w weld a'i fod wedi cael ei gadw mewn cell ar ei ben ei hun, ac iddo ddioddef anafiadau, a torri ei fraich ar un adeg yn y carchar."
Mae teulu Luke Symons wedi dweud y byddan nhw'n ymateb ar ôl iddo gyrraedd Caerdydd.
Credir iddo gael ei arestio gan fyddin gwrthryfelwyr Houthi. Mae llywodraeth Saudi Arabia yn ochri gyda llywodraeth Yemen ac mae'r rhyfel wedi datblygu yn un hynod waedlyd, gyda degau o filoedd o bobl wedi cael eu lladd, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
Wrth ymweld â'r Rhyl ddydd Llun, dywedodd Prif Weinidog y DU Boris Johnson ei fod am ddiolch i lywodraethau Yemen a Saudi Arabia.
"Rydw i wedi bod yn dilyn yr achos am gyfnod hir iawn," meddai.
"Hoffwn roi teyrnged i'r llywodraeth yn Oman ac i lywodraeth Saudi Arabia am helpu i ryddhau Luke o'i gaethiwed ac hoffwn ddymuno'r gorau i'w deulu."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan y Swyddfa Dramor i honiadau Kevin Brennan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2022