Rhyddhau carcharor o Yemen wedi pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd sydd wedi bod mewn carchar yn Yemen ers pum mlynedd wedi cael ei ryddhau.
Fe gafodd Jamal, 30 - a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Luke Symons - ei ddal yn ddigyhuddiad fel carcharor yn y wlad lle ddechreuodd rhyfel cartref yn 2015.
Roedd yn byw yn Yemen pan gafodd ei gipio gan wrthryfelwyr yn 2017 wrth geisio trefnu i adael y wlad gyda'i wraig a'u mab ifanc.
Cafodd ei arestio a'i ddal yn sgil honiadau o fod yn ysbïwr.
Ers hynny, mae ei deulu wedi ymgyrchu er mwyn ei ryddhau.
Ddydd Sul, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss, y bydd Mr Symons yn dychwelyd at ei deulu yn y Deyrnas Unedig yn fuan.
Mewn datganiad, dywedodd Liz Truss: "Rwy'n falch bod Luke Symons, a gafodd ei gadw'n anghyfreithlon, heb gyhuddiad nag achos ers 2017 yn Yemen, wedi'i ryddhau.
"Roedd Luke yn 25 oed pan gafodd ei gadw'n anghyfreithlon gan yr Houthis. Dim ond ychydig fisoedd oed oedd ei fab ar y pryd.
"Honnir iddo gael ei gam-drin, roedd e'n gaeth ar ei ben ei hun, a chafodd ymweliadau gan ei deulu eu gwrthod.
Ychwanegodd Ms Truss ei fod wedi hedfan i Muscat ac y bydd yn aduno gyda'i deulu yn y DU.
"Ry'n ni'n diolch i'n partneriaid yn Omani a Saudi am eu cefnogaeth i sicrhau ei ryddhau.
"Rwy'n talu teyrnged i'n staff rhagorol am eu gwaith caled yn dychwelyd Luke adref."
'Newyddion arbennig'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd, Kevin Brennan: "Mae hyn yn newyddion arbennig...
"...ar ôl pum mlynedd, o'r diwedd, mae Luke Symons wedi cael ei ryddhau o gaethiwed.
"Diolch i bawb yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a fwy na dim i holl deulu Luke am eu hymgyrchu di-flino."
Dywedodd Eilidh Macpherson o Amnest Rhyngwladol: "Mae'n newyddion da ac yn gryn rhyddhad bod Luke Symons wedi cael ei ryddhau o'r diwedd o garchar yn Yemen wedi iddo fod mewn caethiwed mewn amodau dychrynllyd am bum mlynedd.
"Roedd Mr Symons yn gwbl ddiniwed a ddylai e ddim fod wedi cael ei ddal. Mae'r amodau y bu'n rhaid iddo eu hwynebu wedi cael cryn effaith ar les Luke ac ar ei iechyd meddwl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019