Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-3 Bournemouth

  • Cyhoeddwyd
Joël Piroe a Cyrus ChristieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joël Piroe yn dathlu gyda Cyrus Christie ar ôl rhoi'r Elyrch ar y blaen

Bu'n rhaid i Abertawe fodloni ar bwynt diolch yn bennaf i ddwy gôl hwyr gan ymosodwr Cymru, Kieffer Moore.

Daeth Bournemouth fewn i'r gêm yn yr ail safle, yn anelu am ddyrchafiad yn ôl i'r uwch gynghrair.

Ond yr Elyrch ddechreuodd orau wrth fynd dair gôl ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner.

Joël Piroe oedd seren y sioe i Abertawe wrth rwydo ddwywaith cyn yr egwyl, ac yna Christie'n gwneud hi'n dair wedi 58 munud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Kieffer Moore ddwywaith yn ystod ei ail ymddangosiad i Bournemouth, ar ôl torri'i droed fis Chwefror

Ond brwydro'n ôl wnaeth tîm Scott Parker, gyda Kieffer Moore yn dod ymlaen o'r fainc i sgorio gyda'i ben wedi 72 munud.

Taflwyd mwy o bwysau ar Abertawe wedi i Dominic Solanke rwydo cic o'r smotyn, cyn yr ergyd farwol yn yr eiliadau olaf wrth i Moore sicrhau pwynt gwerthfawr i'w dîm.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Elyrch yn aros yn y 14eg safle, gyda Bournemouth pwynt yn agosach i sicrhau dyrchafiad chwim i'r uwch gynghrair.