Wcráin: 'Rhaid dianc neu aros yn Mariupol a marw'
- Cyhoeddwyd
Wrth ohebu ar raglen BBC Wales Investigates, mi ddaeth Elen Wyn i adnabod gwraig oedd yn byw ym Mariupol.
Mewn erthygl arbennig ar gyfer Cymru Fyw, mae hi'n rhannu profiadau Yuliia a'i phlant wrth iddyn nhw ddianc rhag y bomio.
"Dos â'r plant o 'ma, mor bell ag y galli di"
Geiriau ffarwel gŵr wrth ei wraig yn Mariupol. Gyda'u dinas dan warchae, roedd Yuliia a'i thair merch ar fin cychwyn ar y daith anoddaf erioed.
Ychydig ddyddiau ar ôl i'r rhyfel ddechrau mi aeth y teulu i fyw mewn byncer gyda degau o bobl eraill.
"Doedd 'na ddim toilet yno. Dim cawod. Dim trydan," eglurodd Yuliia.
"Dim ond 'chydig o fwyd oedd ar gael, ac roedd rhai yn dwyn o'r archfarchnad ac yn rhoi i ni."
Wrth iddyn nhw gysgodi dan ddaear, mi gafodd eu fflat ei daro gan daflegrau, gan chwalu popeth.
Egluordd Yuliia fod ganddi ddau ddewis, "Dianc, neu'r dewis arall oedd aros yn Mariupol a marw."
Gobaith ffoi i Gymru
Roedd rhaid i'w gŵr aros i ymladd, a chyda bob galwad ffôn ers hynny; mae o'n ei hatgoffa i fynd â'r plant cyn belled â phosib o Wcráin.
Dyna oedd bwriad Yuliia, ffoi cyn belled ag y gallai. Ffoi i Gymru.
Ond, ddigwyddodd hynny ddim.
Er mwyn egluro pam, mae'n rhaid mynd yn ôl i ddyddiau cynta'r rhyfel pan oedd Mariupol yn dod yn enw cyfarwydd i ni gyd ym mhenawdau'r newyddion.
'Eisiau i'r byd wybod'
Ar y pryd, doedd dim modd i newyddiadurwyr glywed tystiolaeth am yr hyn oedd yn digwydd yno.
Yn ystod yr wythnos gyntaf o ryfela, mi wnes i gyfarfod teulu o Wynedd oedd â chysylltiadau cryf ag Wcráin.
Mae Nataliia, a gafodd ei magu yn ninas Poltava wedi priodi Dewi Roberts o Morfa Bychan.
Mi briodon nhw bum mlynedd yn ôl a setlo yng Nghaernarfon; gyda'u plant Julia Mai, 4 a Jacob 1.
Ers ei chyfarfod am y tro cynta', ges i groeso annwyl iawn gan y teulu. Roedd Nataliia isio siarad, eisiau i'r byd wybod am yr hyn oedd yn digwydd i'w theulu a'i ffrindiau yn Wcráin.
Roedd hi ar bigau'r drain, yn poeni am ei theulu yn Poltava ond hefyd am ffrind ysgol - Yuliia o Mariupol.
Ac wrth i mi dreulio amser efo Dewi a Nataliia, mi ges i gyfle hefyd, i ddod i 'nabod Yuliia.
'Dŵr glaw o byllau ar y stryd'
Mae Yuliia wedi bod yn anfon dyddiaduron fideo. Cofnodion byr am eu bywydau dan warchae. Pytiau oedd yn datgelu gymaint.
Mewn un fideo, a hwythau ar lwgu, mi esboniodd Yuliia ei bod hi'n gorfod cyfyngu faint o fwyd oedd hi'n ei roi i'r plant.
"Un powlen fach o gawl ar gyfer tri o blant fesul diwrnod" meddai, "ac un gwydr o ddŵr bob dydd i'r tair folchi."
Wrth i'r dyddiau fynd heibio, aeth pethau o ddrwg i waeth i Yuliia a'i merched, 3, 6 ac 11 oed. Roedd y ferch ganol yn sâl.
"Doedd yna unman ar agor i ni gael meddyginiaeth" eglurodd Yuliia. "Roedd hyn yn loes i mi, achos bod gen i arian, ond allwn i ddim prynu unrhyw beth.
"Roedd popeth wedi torri a phobl wedi bod yn dwyn. Roedd popeth wedi ei ddinistrio."
Roedd dŵr yn brin, ac mi soniodd Yuliia wrtha i eu bod wedi gorfod yfed dŵr glaw o byllau ar y stryd.
"Wyddwn i ddim fod dŵr glaw yn medru bod mor flasus" meddai.
Mi ddeallodd Yuliia fod yna ffynnon rhyw 3km i ffwrdd, ac yn niffyg unrhyw ddewis arall, mi adawodd y plant yn y seler i 'nôl y dŵr.
"Roedd rhaid i mi redeg yno," meddai, "o dan sŵn y gynnau yn tanio, o dan fomiau."
'Dynes aruthrol o gryf'
Fedra' i ddim honni fy mod i'n 'nabod Yuliia yn dda, fasa' ein llwybrau fyth wedi croesi oni bai fy mod wedi cyfarfod Nataliia.
Ond, drwy'r holl sgyrsiau ffôn a 'Facetime', dwi wedi dod i nabod dynes aruthrol o gryf.
Mae hi hefyd yn hwyliog iawn, ac yn chwerthin lot wrth siarad. Roedd hi'n anodd credu ar brydiau, fod gwraig oedd yng nghanol gymaint o drallod, yn fodlon siarad efo gohebydd dieithr filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Ond mi fydda' hi yn fy nhwt-twtian am ddeud hynny: "Dwi am i'r byd i gyd glywed mai hyn ydi byw mewn rhyfel. Dyma beth ydi gwir ryfel. Mae o'n ofnadwy."
Wrth i ni ddod i nabod ein gilydd yn well, mi ddois i glywed mwy am yr Yuliia ers talwm. Yuliia cyn y rhyfel.
Roedd ei chymuned yn bwysig iddi. Mae yna fideos ohoni ar lwyfan sioe leol yn canu deuawd efo'i merch, ac un arall ohoni yn canu a dawnsio mewn cyngerdd awyr agored.
'Llawer o gyrff'
Dwi wedi sôn wrthi, y bydd rhaid iddi ymweld â'r Steddfod yma yng Nghymru, rhyw ddydd. Wrth ei gweld yng nghanol bwrlwm ei chynefin dwi'n ei chael hi'n anodd dirnad, ei bod hi erbyn hyn yn ffoadur ac wedi bod yn dyst i gymaint o erchyllterau.
Mi welodd "lawer o gyrff," meddai. "Rhai oedd wedi eu lladd gan rocedi. Rhai wedi colli eu dwylo, dim coesau"
Mi eglurodd fod pobol yn ceisio "rhoi'r darnau yna yn ôl at ei gilydd cyn eu claddu."
"Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy nad oeddwn i yn gallu eu claddu, oherwydd mi nes i droi fy nghefn a gadael."
Gadael Mariupol drwy goridor dyngarol gan y Rwsiaid wnaeth Yuliia.
Cyn mynd, mi losgodd holl ddogfennau'r teulu. Roedd ganddi ofn i filwyr Rwsia ddarganfod ei bod yn briod a milwr Wcráin.
"Roedd gan y Rwsiaid lawer o checkpoints" meddai. "Roedden nhw wedi heidio yno fel llau gwely."
Wrth iddi hi a'r plant gael eu harchwilio, eglurai Yulia ei bod yn cael ei gorfodi i wenu ar y milwyr. "Roedden ni eisiau byw."
"Dwi'n casáu fy hun am wenu'n deg arnyn nhw. Dwi'n ffieiddio â mi fy hun."
Wedi taith hir mi lwyddodd y bedair i deithio ar drên o Zaporizhia i Lviv.
"Tra oedden ni'n mynd ar hyd y Coridor Gwyrdd, fe wnaethon nhw geisio tanio atom sawl gwaith."
Mi gafodd Yuliia a'r merched loches mewn canolfan hamdden yn Lviv . A thra yr oedd hi yno, mi lwyddodd Nataliia a finna' ei ffonio. Doedden ni ddim wedi gallu siarad efo hi ers iddi adael Mariupol.
Wrth ei chyfarch, mi roedd yna wên fawr ar ei hwyneb. "Dwi newydd gael cawod" meddai, "Dwi heb folchi ers dros fis."
Croesi'r ffin
Bu Nataliia a hithau'n trafod visas, a chynlluniau i ddod â'r teulu i ogledd Cymru. Ond, mi ges i'r teimlad wrth i ni ffarwelio nad oedd Yuliia yn rhy obeithiol.
Ychydig ddyddiau wedyn, mi lwyddon nhw i groesi dros y ffin i Wlad Pwyl.
Maen nhw eisiau dod i Gymru ond does gan Yuliia ddim pasbort.
"Dwi wedi ffeilio dogfennau, wedi gwneud ymholiadau, ac yn ceisio cael pasbortau."
Wedi ychydig dros wythnos yng Ngwlad Pwyl, maen nhw wedi cael cartref dros dro, mae Yulia wedi cael swydd mewn tŷ bwyta, ac mae'r merched yn mynd i'r ysgol.
"Mi gafodd popeth ei wneud mor gyflym," meddai.
"Wrth gwrs roeddwn i eisiau dod (i Gymru), ond doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod yn broses mor hir."
Gobaith o aduniad
Mae Nataliia yn torri ei bol isio i Yuliia a'r genod ddod i Wynedd.
Dan y cynllun 'Cartrefi i Wcráin', mae Dewi a Nataliia yn noddi ei mam a'i llys-dad sydd wedi dianc o ddwyrain y wlad.
Felly, mae hi'n gobeithio y gall Yuliia ddod o hyd i noddwr yng nghyffiniau Caernarfon er mwyn iddi hi a'i theulu fod yn gefn i Yuliia.
Dydy gohebwyr fel arfer, ddim yn dangos emosiwn, adrodd y stori - dyna'r nod.
Ond ar y llaw arall, fy mhrif swydd i ydy bod yn fam, ac mae clywed am yr erchyllterau yr oedd hi a'i phlant yn wynebu yn mynd reit i'r galon.
Roedd cael bod mewn cyswllt â theulu oedd yn byw yn Mariupol yn ystod cyfnod mor gythryblus yn frawychus, ond heb os, yn fraint.
Mae tua 10,000 o bobol o Gymru wedi cynnig cartrefi i ffoaduriaid o'r Wcrain, ond erbyn ddiwedd mis diwethaf, dim ond 2,300 o fisas oedd y Swyddfa Gartref wedi eu caniatáu i ddod i Gymru.
Am y tro, mae gan Yuliia gartref diogel yng Ngwlad Pwyl, ond mae Nataliia a hithau yn dal i obeithio y cawn nhw weld ei gilydd yn fuan.
"Mi faswn wrth fy modd yn ei chael hi yma" meddai Nataliia.
"Roeddwn yn breuddwydio y bydd hi yma, y byddwn yn cael paned o de yn ein hystafell fwyta. Er mwyn iddyn nhw weld ein bywyd ni yma yng Nghymru a chael bywyd mwy hapus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022