'Nerfus cyn gweld yr ysgol ond rwan dwi'n hapus'
- Cyhoeddwyd
Does dim cofnod swyddogol i ddangos faint o ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i Gymru, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud ei bod wedi rhoi 2,300 o fisas ond nad yw'n gallu darparu gwybodaeth am faint o ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yma'n ddiogel.
Pan ofynnodd BBC Cymru i Lywodraeth Cymru faint o ffoaduriaid o Wcráin oedd wedi cyrraedd yma doedd ganddyn nhw ddim ateb ac fe wnaethon nhw ein cyfeirio at Y Swyddfa Gartref.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi gofyn am y data ond wedi cael gwybod nad yw ar gael.
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod yn gweithio mor gyflym ag y gall i ddarparu'r wybodaeth honno.
Fis Mawrth fe deithiodd gohebydd Newyddion S4C, Elen Wyn, i Slofacia i weld aduniad arbennig cwpwl o Drawsfynydd a aeth i achub eu teulu o Wcráin ac ers hynny, mae hi wedi bod yn dilyn effaith argyfwng y ffoaduriaid ar deuluoedd o Gymru.
Dyma hanes Albina, merch 12 oed o ddwyrain Wcráin wrth iddi setlo yn Nhrawsfynydd.
Y melys a'r chwerw
Mae Albina wedi cael ei siâr o ofid yn ddiweddar. Gorfod gadael ei gwlad, ei chartref a rwan her arall - ysgol newydd.
Ers ei chyfarfod am y tro cyntaf 'nôl ym mis Mawrth yn Slofacia, mi roeddwn yn gwybod yn syth ei bod hi'n hen ben ar 'sgwyddau ifanc. Ond, er ei brwdfrydedd a'i doethineb, toes na'm amheuaeth fod dechrau ysgol newydd mewn gwlad newydd a iaith newydd yn her aruthrol.
Yn naturiol, roedd hi'n nerfus ond roedd yn ddiwrnod mawr i'w mam hefyd. Mae'r ddwy wedi bod efo'i gilydd 24 awr ers ffoi o'u cartref yn nwyrain Wcráin - bron i ddeufis yn ôl.
Law yn llaw gyda'i Mam, mi gerddodd fyny'r llwybr am gyntedd Ysgol y Moelwyn - y ddwy yn sgwrsio'n braf, ond mi dd'udodd Angelina wrtha i wedyn fod yn rhaid iddi hi fel Mam fod yn ddewr.
"Mae'n bwysig bod Albina yn parhau efo'i haddysg. Mi fydd mynd i'r ysgol yn help i gadw ei meddwl ar bethau heblaw am y rhyfel."
Er mwyn parhau â'i gwaith ysgol Wcráin mae Albina'n deffro'n gynnar ac yn cael dwy awr o wersi ar-lein cyn teithio o Drawsfynydd i Ysgol y Moelwyn.
Mae yna groeso cynnes iawn yn ei haros. Mae'r pennaeth wedi trefnu criw o blant i ofalu amdani.
Casey gafodd y swydd bwysica' - mynd ag Albina ar wibdaith o amgylch yr ysgol. Mae gan Casey sydd yn yr un flwyddyn ag Albina wybodaeth helaeth am bob twll a chornel o'r ysgol ac yn ogystal â dangos pwy oedd pwy o ran yr athrawon, mi na'th yn siŵr fod Albina yn gwybod lle i gael bacon neu sausage bap.
Roedd cael gweld Albina yn dechrau ar ei thaith yn yr ysgol yn hyfryd ond chewch chi ddim y melys heb y chwerw.
Fel rhan fwyaf o ddynion Wcráin mae tad Albina, Vova, wedi gorfod aros.
Ac yn Nhrawsfynydd mae yna hiraeth amdano. Mae'r teulu yn cadw mewn cysylltiad, ac mae Vova yn sôn wrthyn nhw am sŵn y seiren a bod rocedi wedi dechrau cael eu tanio yn nes at eu dinas.
Ar ôl croesi'r ffin o Wcráin, mi gymerodd wythnosau i'r teulu yma gael trefn ar y fisas. Ond, maen nhw ymysg y rhai lwcus achos erbyn ddiwedd Mawrth, roedd yna dros 70% o ffoaduriaid Wcráin oedd isio dod i'r Deyrnas Unedig yn dal i ddisgwyl am y dogfennau.
Mae Gareth Roberts, taid Albina yn d'eud fod angen gwell trefn ar ôl i ffoaduriaid gyrraedd Prydain.
Ond roedd yna ryddhad ei bod wedi cael diwrnod da yn yr ysgol.
"O'dd e'n grêt. Os rhywbeth o'dd hi'n llai nerfus na gweddill y teulu. Mae'n hapus iawn yn ei gwisg ysgol," meddai.
"Mae'r ysgol 'ma yn taro fi fel un lle fydd hi'n hapus iawn - mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn."
Mae Albina yn gwisgo gwên anferth bob tro fyddai'n ei gweld hi, mae hi'n fyrlymus ac yn llawn straeon. Ond mi fyddai'n meddwl yn aml am y pryder sydd ganddi. Mae ei thiwtor personol, athrawes Saesneg, Georgia Churm, yn dweud fod pawb wedi cymryd ati yn syth, ac mi fyddan nhw fel ysgol yn gefn iddi.
"Mae hi'n hogan mor ddewr. Mae hi i weld wedi setlo'n dda. Mae'n anodd i ni ddeall y gwahaniaeth rhwng gwlad Wcráin a fa'ma. Mae'n siarad Saesneg yn wych ac mae'n ddigon hyderus i ofyn os yw hi heb ddeall," meddai.
"Dwi wrth fy modd bod hi'n dysgu geiriau Cymraeg yn barod. Dwi'n meddwl wrth siarad â hi ar ben ei hun a ddim o flaen lot o blant does yna ddim pwysau iddi ddweud bod hi'n iawn.
"Dwi'n meddwl wrth i'w sgiliau Saesneg a Chymraeg wella yn ara' bach bydd hi hefo mwy o hyder i gyfathrebu ei theimladau yn well."
Mae Casey yn gymeriad a hanner ac wedi penderfynu ei bod hi isio dysgu geiriau anoddach i Albina na "diolch" a "hufen iâ".
"Dwi am ddysgu geiriau fel 'anghywir' a 'gofalus' iddi."
Tydi diwrnod cynta' mewn ysgol ddim y hawdd ar y gorau ond wrth siarad efo Albina, mi eglurodd wrtha i ei bod wedi cael ei chroesawu gan staff a disgyblion Ysgol y Moelwyn.
Mi roeddwn inna' hefyd, wrth ei dilyn o gwmpas ar goridorau'r ysgol, yn medru gweld y gofal yn lapio amdani. Mae'r pethau bach gan gyd-ddisgyblion - gwên a chyfarchiad ffeind, heb os, yn werth y byd.
Mae Albina yn un o'r dros bedair miliwn o blant sydd wedi gorfod gadael eu cartref oherwydd y rhyfel yma.
Mae gan bob un ohonyn nhw stori.
Ac mi fydd Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog yn gymeriadau cryf ym mhenodau newydd - stori Albina.
Bydd stori Albina ac eraill sydd wedi ffoi i Gymru o Wcráin i'w gweld ar raglen Wales Investigates am 20:30, nos Lun ar BBC 1 Cymru ac yna ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022