'Edrych ymlaen at groesawu ffoaduriaid i Gaerdydd'
- Cyhoeddwyd
"Doedd o ddim yn benderfyniad anodd o gwbl a 'dan ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu ffoaduriaid i'n cartref yng Nghaerdydd dros y Sul," meddai Elin Edwards.
'"Dan ni gyd wedi cael ein cyffwrdd yn emosiynol gan be' sy'n digwydd yn Wcráin - y sefyllfa echrydus yno, ac mae pawb isio helpu mewn rhyw ffordd."
Mae dros 30,000 o bobl o Wcráin bellach wedi cyrraedd y DU wedi iddynt orfod ffoi rhag yr ymladd - oddeutu 16,000 wedi cael fisa wrth iddynt ddod at deulu ac eraill drwy gynllun nawdd sy'n caniatáu i bobl roi llety i deuluoedd unigol.
"Ro'n i wedi clywed ei fod yn broses reit anodd o ran gwaith papur a bod rhaid 'nabod rhywun yn Wcráin - doedden i ddim yn 'nabod neb ac yna fe welais i neges ar Facebook gan ffrind i mi oedd â chysylltiad yn Wcráin a dyma fi'n rhoid fy enw ymlaen ac ers hynny mae pethau wedi symud yn weddol sydyn," ychwanegodd Elin Edwards wrth siarad â Bwrw Golwg.
Y disgwyl yw y bydd mam a'i mab, 10, o Lviv yn cyrraedd cartref Elin a'r teulu brynhawn Sul.
"Dwi ddim wedi siarad â'r fam ond 'dan ni wedi anfon negeseuon ar y ffôn i'n gilydd a lluniau - mae'n siŵr bod hi'n nerfus iawn. Dyw hi erioed wedi gadael Wcráin o'r blaen ond y dewis iddi yw risgo dod draw fan hyn aton ni neu aros yn y sefyllfa ofnadwy.
"Mae gynnon ni dŷ teras ac ar waelod yr ardd mae gynnon ni 'stafell efo gwely, soffa, cegin a bathrwm bach - fanna bydd ein teulu ni'n aros ond bydd croeso iddyn nhw ddefnyddio'r tŷ fel y mynnon nhw, wrth gwrs.
"Dwi hefyd wedi gwneud cysylltiad gyda phobl eraill yng Nghaerdydd sy'n croesawu pobl a'r syniad yw bo' ni'n gallu cyfarfod fel bod y bobl sy'n dod atom yn dod i adnabod pobl sy'n siarad eu hiaith nhw.
"Saesneg syml sydd gan y fam sy'n dod aton ni a dwi'n meddwl bod hi wedi bod yn defnyddio app i ddeall fy negeseuon - mae hi wedi anfon fideo o'i mab a dwi wedi bod yn anfon lluniau o'i chartref newydd a'r ardd fel bod nhw'n gwybod be' sy'n ei disgwyl nhw yma."
Mae Elin yn berchen ar siop lyfrau Caban yng Nghaerdydd ac fe fydd y siop yn gwerthu llyfrau Wcreineg.
Ychwanegodd Elin ei bod wedi bod yn ffodus iawn o'r gŵr o Bwyl sydd â chysylltiad ag Wcráin gan ei fod e wedi medru hwyluso'r gwaith papur a sicrhau bod teuluoedd yn gallu cyrraedd Cymru yn gynt.
"Fe fyddan nhw'n aros am chwe mis i gychwyn ond pwy a ŵyr am ba mor hir fyddan nhw yma - mae 'na lot o ansicrwydd am y sefyllfa ac mae'n dibynnu ar be' sy'n digwydd draw 'na.
"Byddwn ni'n trefnu lle mewn ysgol i'r bachgen a dwi wedi holi yn y feddygfa ac maen nhw'n cael cofrestru yn fanna.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr. 'Dan ni jyst isio 'neud nhw i deimlo'n gyffyrddus.
"Fedrai ddim dychmygu gadael gwlad gyda fy mhlentyn ifanc am y tro cyntaf erioed. Maen nhw yn dod i dŷ pobl 'dyn nhw'n gwybod fawr ddim amdanyn nhw.
"Mae hi mor bwysig rhoi croeso iddyn nhw."
Bydd cyfweliad Elin Edwards i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ar Radio Cymru ac wedi hynny ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022