Ffoi o Wcráin: 'Dy ni ddim yn gwybod be' ddaw yfory'
- Cyhoeddwyd
"Does dim modd cynllunio ar gyfer y dyfodol gan nad y'n ni'n gwybod be' ddaw yfory."
Brawddeg sy'n cloriannu teimladau'r degau ar filoedd o ffoaduriaid sy'n ffoi rhag y brwydro creulon yn Wcráin.
Y ddau beth sy'n aros gyda fi ers ymweld â chanolfannau ar ffin Hwngari yw y niferoedd syfrdanol o bobl sy'n llifo ar draws y ffin o awr i awr, a'r croeso gwirioneddol gynnes maen nhw'n ei dderbyn gan y gwledydd cyfagos.
Yn nhref Beregsurány, mae 'na ganolfan yn cael ei rhedeg gan elusen o Ynys Malta. Ddwy funud o daith o'r ffin, mae 'na fysiau mini cyson yn cyrraedd yn llawn teuluoedd.
Yno mae'r ffoaduriaid yn cael bwyd, diod poeth gyda chabanau yno hefyd i gysgu ac ymolchi. Mae'r plant yn derbyn tegan, ac mae 'na barc chwarae yno ar eu cyfer.
Ger y parc hwnnw, siarades i ag Irina. Fe ddangosodd hi luniau i mi ar ei ffôn o awyrennau Rwsia yn hedfan yn frawychus o agos i'w chartref.
Roedd llun arall yn dangos ei theulu yn cerdded mas o ddinas Kyiv yn cario baner wen.
"Dwi'n poeni am fy ffrindiau sy'n dal yno," medde hi wrthai.
"Ro'n i'n ofnus, mae'n gyfnod erchyll i'n gwlad."
Wrth ei holi am y plant oedd yn chwerthin gerllaw, dywedodd Irina nad oedden nhw'n llawn sylweddoli beth oedd yn digwydd: "Maen nhw'n iawn yn y dydd ond yn crio gyda'r nos."
Ar fainc arall, yn eistedd ar ei phen ei hun, ges i sgwrs gydag Ann - merch ifanc, serchog, a chanddi wên gyfeillgar.
Trwy gymorth cyfieithydd, gofynnais iddi am ei thaith dros y ffin. Roedd yr ateb yn iasol.
"Echddoe, cafodd fy nhŷ ei chwalu'n llwyr wedi i daflegryn ei daro. Cafodd pobl eu lladd. Nhw oedd ein cymdogion", meddai Ann.
"Roedden ni lawr yn y selar felly ro' ni'n saff."
Roedd Ann yn dal i wenu wrth i'r geiriau brawychus yma ddod o'i cheg. Ai nerfusrwydd oedd hynny, neu o bosib, rhyddhad ar ôl llwyddo i ddianc?
"Mae'n anodd iawn," dywedodd Ann.
"Chi adre', yn rhan o deulu cadarn, ac yn yn sydyn ry'ch chi mewn dinas arall - yn methu siarad yr iaith.
"Ond mae'n rhaid bod yn gryf. Ni'n Wcraniaid. Gogoniant i Wcráin."
Ychydig i'r gogledd o'r dre' fach yma fe ddewch i bentre Záhony.
Yn yr orsaf ddi-nod honno ma' 'na dri neu bedwar trên yn cyrraedd yn ddyddiol - maent yn cludo ffoaduriaid o Chop, pentref filltir neu ddwy yr ochr arall i'r ffin.
Does neb yn gwybod pryd mae'r trên hwnnw'n cyrraedd, ond pan yn llawn, mae'n gadael tir sydd dan orthrwm rhyfel ac yn cludo ychydig gannoedd o ffoaduriaid i dir croesawgar.
Wrth feddwl bod o leiaf 1,000 o Wcraniaid yn cyrraedd yr orsaf mewn diwrnod, does 'na ddim unrhyw arwydd o anrhefn na phanic. Mae swyddogion yn edrych ar ddogfennau ac yn cludo'r rheiny sydd heb basport ymaith am gyfnod cyn iddyn nhw ddychwelyd gyda fisa dros dro.
Gweld plant ifanc yn camu oddi ar drên a'u bywydau mewn bagiau sydd wir yn cyffwrdd â'r galon.
Y darlun fydd yn aros yn fy meddwl am yn hir iawn oedd gweld merch fach ifanc yn camu dros y cledrau, yn anelu am gludwch gorsaf drenau gyda bagiau trymion ar ei chefn a thedi yn ei llaw. Roedd hi'n gafael yn yr un peth oedd yn gyfarwydd iddi.
Dyma lle gwrddes i ag Anna a'i theulu. Roedd hi newydd glywed fod tŷ ei mam-gu yn ninas Kharkiv wedi dymchwel gan fomiau Rwsia.
"Mae cartref mam-gu wedi'i chwalu," meddai.
"Ar hyn o bryd, does gen i ddim geiriau, dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud."
O'r orsaf drenau yma yn Záhony, mae'r ffoaduriaid, ar ôl cael eu bwydo, yn derbyn tocyn am ddim ar gyfer trên arbennig sydd yn eu cludo yn syth i ganol prifddinas Hwngari, Budapest.
Yn yr orsaf honno, mae 'na gyfundrefn debyg iawn unwaith eto - croeso twymgalon, arwyddion yn dangos y ffordd tua chludiant am ddim, neu wi-fi a choffi.
Dyma lle welais i frawd a chwaer yn camu ymlaen law yn llaw, tuag at ei dyfodol ansicr. Delwedd ddaeth â dagrau i'm llygaid wrth wylio o bell.
Yn famau ac yn blant ac yn henoed gan fwyaf, maen nhw'n cael eu sgubo gyda'u bagiau i mewn i neuadd gynnes, groesawgar.
Yno, mae 'na fwyd, diodydd poeth a phob math o nwyddau - cewynnau, deunydd meddygol, brwsh dannedd, dillad cynnes, teganau i'r plant. Y pethau hynny nad oedd modd eu casglu cyn gadael cartref oedd dan fygythiad llid Vladimir Putin.
Wedi cyrraedd Budapest ar ôl gadael cyrion Kyiv, fe welais i Olga am y tro cyntaf yn beichio crio wrth dderbyn bagiau o fwyd a deunyddiau angenrheidiol.
Doedd Olga ddim yn gwybod i le y byddai'n troi nesaf. A hithau wedi cael amser i ddod at ei hunan roedd hi'n fwy na pharod i ddweud wrtha i am ei thaith ddiweddar yng nghwmni ei chwaer a'i merch Christina sy'n dair blwydd oed.
"Mae wedi cymryd pum diwrnod i gyrraedd yma," meddai wrtha i yn ddagreuol.
"Roedd bomiau Rwsia yn disgyn uwch ein pennau, a'n fabi bach i yn gorfod swatio mewn cornel gyda'i dwylo dros ei phen. Mae hi'n rhy ifanc i ddelio â hyn."
Gan geisio gwenu'n ôl wrth i mi ddiolch iddi am ei hamser, gwthiodd Olga y bygi i ffwrdd o'r orsaf.
Ynddo, roedd Christina'n eistedd yn fodlon a hithau wedi cael balŵn mawr coch gan un o'r gwirfoddolwyr. Roedd y bygi'n drwm dan bwysau'r rhoddion oedd wedi'u cyflwyno iddi ychydig funudau ynghynt.
Tu fas i'r orsaf yn Budapest, mae' 'na babell syml - tebyg i'r rheiny welwch chi mewn rhes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yno, mae 'na dîm o wirfoddolwyr yn ceisio cael gafael ar lety addas ar gyfer y rhes o ffoaduriaid sy'n aros yn flinedig.
Mae 'na 120,000 o aelodau ar grŵp Facebook y gwirfoddolwyr, a modd i'r byddin yma felly gydlynu ymgyrch ryfeddol o effeithiol.
Mae Eszter Nemeth yn byw yn Budapest ac yn barod i weithio'n ddi-dâl yn ddyddiol am ba bynnag gyfnod sydd ei angen.
"Mae ffoaduriaid o Wcráin yn gallu gofyn am help gyda llety a chludiant," meddai.
"Ac yna mae na fysiau yn eu cludo i westai sy'n cael eu cynnig gan y wladwriaeth. Ond mae'r hyn sy'n digwydd tu ôl i fi yn gwbl wirfoddol.
"Yn y cyfamser mae'r wlad yn gwneud popeth yn ei gallu hefyd i helpu'r miloedd sy'n cyrraedd yma."
Un o'r rheiny oedd yn aros am lety ar gyfer ei deulu bach oedd Kenneth. Wedi cymryd diwrnodau lawer i deithio o ddwyrain Wcràin, roedd e'n sôn yn emosiynol wrtha i am greulondeb gorfod ffoi o adref gyda babi 16 mis oed tra bod taflegrau Putin yn taro.
"Mae gen i ferch fach. Roedd y cyfan yn ofnadwy iddi hi. Roedd rhaid i fi fynd â hi dan ddaear oherwydd y bomiau felly, ie, roedd e'n ofnadwy iddi hi.
"Mae'n drist gweld y plant yn dioddef fel hyn. Mae'n greulon. Mae angen i bob gwlad ein helpu ni. Ni angen help."
Dim ond ambell i ffoadur lwyddais i siarad â nhw dros y dyddiau diwethaf. Mae'r niferoedd yn syfrdanol ac yn codi'n ddyddiol.
Mae ymhell dros ddwy filiwn bellach wedi gadael Wcráin ond mae gan bawb ei stori a neb yn gwybod beth ddaw nesa' yn y stori honno.
Yng nghanol y dagrau, y tristwch a'r anobaith, serch hynny, mae 'na un peth sydd yn cynnig ychydig o obaith.
Ymdeimlad o frawdgarwch yw hwnnw, ac ysfa pobl o wledydd fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia, Moldofa a Romania i estyn llaw.
Mae 'na ddrwg yn y byd ond yng ngwraidd y mwyafrif mae 'na ddaioni. Ac mae angen y daioni hwnnw nawr yn ystod y cyfnod tywyll hwn, yn fwy nag erioed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022