Treforys i Krakow: Helpu ffoaduriaid sydd 'heb ddim'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Tad Jason o Dreforys yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd yn ardal y Cysegr Trugaredd Dwyfol, neu ym Mhwyleg, "Sanktuarium Bozego Milosierdzia" yn Lagiewniki yn Krakow.
Mae e wedi bod yn teithio yma ac arwain pererindodau i'r safle yng nghwmni ei blwyfolion ers blynyddoedd.
Wedi iddo baratoi am daith emosiynol, dwi'n cerdded gydag e yng nghyffiniau lleiandy Chwiorydd Mam Trugaredd Duw.
Mae bron pawb sy'n cerdded heibio yn ei gyfarch â gwên a "Bore da, Father Jason".
Eisoes ben bore, mae e wedi bod yn gweddïo ac mae diwrnod prysur o'i flaen - diwrnod gwahanol i'r arfer.
Mae e yma i ddosbarthu llond ces o ddillad babis sydd wedi eu gweu gan ei blwyfolion yn Nhreforys, i famau a phlant sydd wedi ffoi i Krakow o'r rhyfel yn Wcráin.
Nid nepell o'r lleiandy, ry'n ni'n cyrraedd tŷ sylweddol sydd wedi ei addasu a'i ddefnyddio fel llety ers dechrau rhyfel Wcráin gan elusen Babyddol Caritas.
Mae dros 60 o ffoaduriaid yn byw yma ar hyn o bryd, gan gynnwys 30 o blant.
Wrth i ni gyrraedd, mae rheolwr y lloches, Domink Klos, yn ein croesawu â gwên fawr ar ei wyneb.
Mae yn frwdfrydig ac yn diolch am bob help, "Ry'n ni'n trio ein gorau i helpu y ffoaduriaid sydd yn aros gyda ni.
"Fe wnaeth y rhan fwyaf gyrraedd yma â nesa' peth i ddim gyda nhw. Dim ond un bag bach efallai, a cwpwl o bethe' n'ethon nhw lwyddo i gario gyda nhw."
Pan dw i'n gofyn iddo pa fath o help maen nhw'n ei gynnig, mae e'n ateb: "Ry'n ni'n rhoi popeth iddyn nhw... bwyd, cosmetics, dillad, lle i gysgu, ond hefyd - heddwch a thawelwch.
"Y peth pwysicaf yw dysgu i wrando, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r bobol sy'n dod yma yn gyndyn iawn i ofyn am unrhyw beth, ac mae nhw'n teimlo cywilydd. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn gwrando yn astud ar be maen nhw yn ei ddweud."
Mae elusen Caritas wedi helpu 4,200 o bobl sydd angen llety yn Krakow ond mae dal llawer o bobl sydd heb le i gysgu neu i fyw.
Yng nghanol Krakow fe welais bebyll wedi eu codi dros dro ger yr orsaf rheilffyrdd. Dyma lle mae y rhan fwyaf o ffoaduriaid yn cyrraedd y ddinas.
'Popeth ar chwâl'
Roedd un babell yn dosbarthu dillad, un arall yn rhoi bwyd ac un arall yn cynnig help meddygol.
Daeth un dyn ata' i yn dal paned boeth o goffi yn ei law yn dynn. "Dwi ddim yn gw'bod beth i 'neud, pwy all helpu, mae popeth ar chwâl," meddai.
Tra bod help tymor byr yn cael ei ddosbarthu ar y funud i ffoaduriaid, mae rhai eisoes yn gofyn beth fydd yn digwydd yn y tymor hir a beth yw y cynlluniau o ran integreiddio.
Yn lloches Caritas mae'r criw yn ddiolchgar am bob cymorth: "Mae help o bob man gan gynnwys llefydd fel Cymru yn bwysig iawn" meddai Dominik.
"Yn Krakow does dim digon o bobl a gwirfoddolwyr, na chwaith digon o arian i brynu popeth. Mae cymaint o angen nawr ag oedd yna ar ddechrau'r rhyfel ond weithiau mae pobl yn anghofio hyn.
"Dyna pam mae'n rhaid i ni gael help o wledydd eraill fel Cymru."
Wrth i ni siarad mae e'n ein harwain drwy'r tŷ... heibio cornel chware i'r plant, 'stafell ymarfer corff, cegin ac ystafell ddosbarth lle mae un ferch fach yn cael gwers dros y ffôn gyda'i hathrawes o Wcráin.
Mae cofio am addysg y plant sydd wedi eu dal yng nghanol y rhyfel yn bwysig iawn i'r teuluoedd a'r elusen.
Wrth gerdded ymlaen ry'n ni'n cwrdd ag Ohla Kosmina, cyn weithiwr mewn canolfan feddygol yn ardal Kyiv yn Wcráin ond sydd wedi ffoi gyda'i mam a'i dau blentyn.
Fe gyrhaeddon nhw Krakow ar hyd y coridor dyngarol allan o Wcráin. Mae'n fenyw dawel, sy'n cytuno i siarad â ni a dweud ei stori.
"Un bag oedd gennym ni rhyngom ni i gyd. Roeddwn i'n methu cario llawer," eglurodd.
'Byddwn ni'n mynd adref'
Fe arhosodd y dynion a'r menywod oedrannus yn ei theulu ar ôl yn Wcráin. Mae'n trio siarad â nhw bob dydd.
"Mae nhw yn clywed bomiau neu seiren, weithiau pedair neu bum gwaith y dydd, hyd yn oed yn Kyiv... ac mae nhw'n mynd â chuddio yn y selar."
Mae'n dal i obeithio y bydd hi'n gallu dychwelyd i Wcráin at ei theulu, ei ffrindiau a'i swydd, ac mae'n edrych yn benderfynol wrth ddweud wrtha' i "pan fydd popeth drosodd, fe fyddwn ni yn mynd adref".
Yn y cyfamser, mae'n bwriadu aros yn Krakow. Ond mae'n dweud y bydd hi, a ffoaduriaid eraill sydd yma, yn gorfod cael help am amser hir.
"Does dim dillad, bwyd, meddyginiaeth, nac arian. Does dim gyda ni."
Wrth i ni baratoi i adael, rwy'n dod o hyd i'r Tad Jason yn eistedd ar ei ben ei hun ar fainc yn yr ardd. Mae e wedi bod yn gweddïo.
"Rwy'n teimlo'n emosiynol iawn wrth siarad â phobl fan hyn yn y lloches. Rwy' wedi rhoi'r bagiau dillad gan y plwyfolion o Dreforys ac mae nhw mor werthfawrogol.
"Mae y tŷ yn lloches hyfryd a phobol yn byw fan hyn fel un teulu. Ond bydd angen i mi ddod 'nôl."
Ymweliad byr yw hwn i finne a'r Tad Jason, ond mae e wedi bod yn gwrando ar beth sydd wedi ei ddweud wrtho yn y lloches, ac mae'n gweld yr angen.
Mae'n dweud wrtha' i y bydd yn cofio yn arbennig am un bachgen bach blwydd oed gafodd ei eni â nam ar ei galon ac wedi cael llawdriniaeth mawr.
"Mae yn brofiad emosiynol, clywed storïau fel hyn. Ond mae y bachgen bach yna yn ddiogel fan hyn o leiaf, ac mae yn yn cael gofal... a chariad, ac y mae e gyda ei fam."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022