'Anrhydedd' derbyn cap 30 mlynedd ers cynrychioli Cymru
- Cyhoeddwyd
"Rwy'n teimlo ei fod yn anrhydedd i dderbyn cap, yn enwedig yn yr un flwyddyn mae rygbi menywod yng Nghymru wedi troi'n broffesiynol.
"Yn yr 80au breuddwyd heb unrhyw obaith gwireddu fydde fod wedi cael y cyfle i wneud gyrfa o chwarae rygbi!"
Mae Catrin Davies ymhlith 11 o gyn-chwaraewyr tîm rygbi merched Cymru fydd yn derbyn eu capiau rhyngwladol cyntaf ddydd Sadwrn, dros dri degawd ers camu ar y cae.
Mae'n rhan o ymdrech Undeb Rygbi Cymru (URC) ers Hydref y llynedd i roi capiau "i unrhyw un sydd am ryw reswm heb dderbyn un pan wnaethon nhw chwarae eu gêm gyntaf dros Gymru".
Fe fydd y cyn-chwaraewyr yn derbyn eu capiau wrth i'r tîm cyfredol wynebu'r Eidal ar benwythnos olaf Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad eleni.
Teimlad 'anhygoel'
Mae hi'n fwy na 30 o flynyddoedd ers i Catrin Davies o Orseinon, oedd yn fyfyriwr ar y pryd, chwarae ei hunig gêm ryngwladol.
Lloegr oedd y gwrthwynebwyr yn Chwefror 1989 yn The Reddings, stadiwm Birmingham Moseley RFC.
Er i Gymru golli 38-4, roedd hi'n ddiwrnod i'w gofio, yn arbennig wedi'r "siom" o fod yn rhan o garfan a deithiodd i'r Iseldiroedd heb gael ymddangos ar y cae cyn y gêm yn erbyn Lloegr.
"Roedd hi'n deimlad anhygoel - i gael fy nghydnabod fy mod i'n ddigon da i chwarae dros Gymru, mae hynny'n sbesial.
"Roeddwn i wedi cymryd rhan mewn campiau hyfforddi gyda rhanbarth Gorllewin Cymru gyda llawer o ferched eraill, felly roedd hi'n fraint i gael fy newis i fynd a chynrychioli fy ngwlad."
Nid oedd Undeb Rygbi Menywod Cymru'n bodoli cyn 1994, ac felly roedd cryn anrhefn o ran teithio i gemau a threfnu cit.
"Dweud y gwir, sa i'n cofio'n dda iawn sut nes i gyrraedd y stadiwm," meddai. "Fi'n credu bod pedair ohonom wedi teithio lan mewn car. Nid oedd unrhyw fath o fws i'r tîm na unrhyw beth fel 'na.
"Roedd pob un ohonom yn gwisgo tracwisg ein clybiau, felly roedd pawb yn troi lan mewn lliwiau gwahanol ac roedd hi'n edrych yn anhrefnus braidd.
"Ond roedd y cit yn dda i fod yn deg. Roedden nhw'n ffitio ac wedi ei frodweithio gyda bathodyn Cymru a England v Wales 1989 arnynt, oedd yn llawer gwell 'na'r citiau oversized dynion roeddwn i'n derbyn gyda [ei chlwb] Swansea Uplands.
"Yr unig anfantais oedd bod rhaid i ni dalu am y cit! Nes i dderbyn llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Menywod Cymru ar y pryd, a'r frawddeg olaf yn dweud 'On the assumption that you will make the squad please bring your cheque books'!
"Yn ffodus i mi, roedd fy nghlwb wedi talu am sanau a shorts, ond fi oedd gorfod prynu bob dim arall. Fi oedd wedi penderfynu cynrychioli fy ngwlad, felly oedd talu am y cit ddim yn diwedd y byd os ga'i chwarae dros Gymru."
Cymru wnaeth gynnal Cwpan y Byd Rygbi Menywod cyntaf, yng Nghaerdydd yn 1991 - cam a roddodd statws i'r gêm menywod, medd Catrin.
"Fi'n credu oedd creu'r twrnament yn really bwysig, ac mae e wedi rhoi'r sail i rygbi merched dyfu ar hyd y blynyddoedd i safon uchel hyd at heddi.
"Mae'r gêm merched wedi gwella a chael mwy o statws ers hynny. Yma yng Nghymru mae rhai chwaraewyr ar gytundebau proffesiynol - faint o dda yw hynny?
"Ni wedi gweld cynnydd enfawr yn ddiweddar ac mae hynny yn gwreiddio gyda'r gemau cynnar chwaraewyd yn yr 80au."
Dyfodol 'disglair' i Gymru
Erbyn hyn, mae 12 o chwaraewyr benywaidd Cymru ar gytundebau proffesiynol a 15 yn rhagor ar gytundebau cynnal.
Enillodd tîm Ioan Cunningham eu dwy gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad cyn colli i Loegr a Ffrainc. Mae Catrin yn credu mai ond gwella wnaiff safon y rygbi yn y blynyddoedd nesaf.
"Pan o'n i'n chwarae o'n ni dal yn gorfod 'neud gwaith pob dydd hefyd. Fi'n credu bod y cyfleoedd i ferched lot gwell nawr.
"Nes i ddechrau chwarae yn y brifysgol ond nawr mae clybiau ar gael i ferched ifanc ac mae ganddynt gyfle i chwarae o oedran ifanc. Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i rygbi yng Nghymru."
'Siom' yn achos rhai?
Bydd Catrin a'r cyn-chwaraewyr eraill yn derbyn eu capiau ar Barc yr Arfau yn ystod egwyl gêm Cymru a'r Eidal.
"Rwy'n hapus iawn dros ben cael cydnabyddiaeth nawr, ond y pleser mwyaf yw gweld y gêm wedi datblygu i'r graddau mae wedi dros y degawdau, a bod y menywod yn cael yr un driniaeth a'r dynion.
"Mae cydraddoldeb yn bwysig a rwy'n teimlo fod gêm y menywod ar y trywydd iawn ar ôl hir aros."
Ond dim ond trwy lwc y daeth Catrin i wybod am y capiau: "Nes i ddod i wybod am hyn trwy siarad gyda'm ffrind o'n i'n chwarae gyda nôl yn yr 80au," dywedodd.
"Heblaw am hynny bydden i ddim yn gwybod bod yr Undeb yn rhoi capiau allan.
"Gall hynny fod yn siom i nifer achos efallai bydden nhw ddim yn gwybod am hyn ac yn colli allan ar y cyfle i ennill eu capiau."
Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Gerald Davies, 'nôl ym mis Hydref bod hi'n "bwysig ein bod yn cydnabod y rhai wnaeth creu'r llwybr i'r cyfleoedd presennol ac yn y blynyddoedd i ddod".
Mae'r undeb yn creu cofnod ar-lein o holl chwaraewyr Menywod Cymru ac yn gofyn i unrhyw un sydd wedi cynrychioli'r wlad, boed wedi derbyn eu cap cyntaf ai peidio, gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022