Merched Cymru: 'Ni'n barod nawr am y Chwe Gwlad'

  • Cyhoeddwyd
Merched Cymru yn ystod Chwe Gwlad 2021Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ionawr cyhoeddwyd bod 12 o'r merched wedi cael cytundebau proffesiynol

Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched eleni yn gyfle i ddangos gymaint mae'r tîm wedi "datblygu" ers i nifer o'r chwaraewyr fynd yn broffesiynol am y tro cyntaf.

Ym mis Ionawr cyhoeddwyd bod 12 o'r merched wedi cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf, ac ers hynny mae 12 arall hefyd wedi arwyddo cytundebau rhan-amser.

Mae hynny wedi golygu cyfle i ymarfer yn fwy cyson fel carfan cyn eu gornest agoriadol yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.

"Mae'n mynd i fod yn sialens anferth i ni, ond un ni'n edrych 'mlaen am," meddai'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham.

'Effaith enfawr'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm yn gryfach yn sgil y cytundebau newydd, medd Siwan Lillicrap

I'r capten Siwan Lillicrap, un o'r dwsin sydd ar gytundeb llawn amser, mae wedi trawsnewid eu paratoadau ar gyfer y twrnament eleni yn llwyr.

"Mae wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau ni, fel unigolion ac fel tîm," meddai.

"Mae gennyn ni amser i bondio fel tîm a gweithio ar bethau ni ddim wedi cael amser i o'r blaen. Ni'n gallu recoverio, edrych ar Iwerddon, edrych ar oppositions ni, ond hefyd edrych ar berfformiad ni yn trainio.

"Mae physical performance ni wedi bod yn well, ma' PBs trwy'r amser yn y gym, felly ni really wedi joio'r dau, dri mis diwethaf a ni'n barod nawr am y Chwe Gwlad."

'Breuddwyd'

Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd angen i Natalia John feddwl ddwywaith am fynd yn broffesiynol

Fe wnaeth y clo Natalia John adael ei swydd fel athrawes ffiseg yn Ysgol Maes y Gwendraeth er mwyn derbyn un arall o'r cytundebau proffesiynol.

"Ges i'r alwad just cyn i fi ddechrau dysgu Blwyddyn 8!" meddai.

"Mae hwn 'di bod yn freuddwyd i fi ers blynyddoedd, dwi 'di bod yn gweithio mor galed dros y pedair blynedd diwethaf, ac i gael yr alwad, roedd e'n no-brainer. O'dd e'n drist i adael yr ysgol, ond bydden i'n dweud wrth fy nisgyblion i fynd am e, so oedd rhaid i fi fynd amdano fe 'fyd.

"Ni 'di bod yn gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i ddatblygu, y cyfle i weithio ar y sgiliau bach yn lle just dod mewn a gwthio popeth at ei gilydd a chwarae gêm. Fi just yn really gyffrous i fynd allan ar y cae a dangos i bawb faint ni 'di datblygu."

'Mwy o bwysau'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau'n gosod mwy o bwysau ar y tîm, medd Ioan Cunningham

Mae Ioan Cunningham yn cydnabod fod y cytundebau'n golygu bod mwy o bwysau ar y tîm bellach i wella ar y canlyniadau diweddar, ond mae'n "gyffrous" am yr her.

"Y sialens yw sut ni'n gallu ymdopi gyda bach mwy o bwysau a dangos ein doniau a sgiliau dan y pwysau 'na," meddai.

"Dechreuad da, mae hwnna'n bwysig. Mae'r Chwe Gwlad i gyd am fomentwm.

"Os ni'n gallu dechrau'n dda mas yn Iwerddon, rhoi lot o'r gwaith caled ni 'di 'neud ar y cae ymarfer mewn i'r gêm, pwy a ŵyr? Ni'n dod gartref wedyn a chwarae'r Alban o flaen torf, bydd e'n wych i ni."

'Rhoi hwb i'r genod'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cytundebau wedi rhoi 'ysbrydoliaeth' i ferched ar lawr gwlad, medd hyfforddwr yng Nghlwb Rygbi Pwllheli

Yng Nghlwb Rygbi Pwllheli, mae'r merched sy'n ymarfer yno yn awyddus i weld y gamp yn datblygu a gweld y tîm cenedlaethol yn cael llwyfan ehangach.

"Dwi'n joio fo, cael dod allan i gael awyr iach, gweld pobl newydd, yn enwedig ar ôl y lockdown, " meddai Beca, 17.

Ychwanegodd Erin, 13, y byddai'n hoffi gweld gemau'r merched ar y teledu yn amlach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca ymhlith y merched sy'n mwynhau cael dod i chwarae rygbi ym Mhwllheli

"'Sa fo'n ffordd o gael pobl ifanc, mwy newydd i ddod i 'neud pethau fel rygbi, a chael y cyfle dwi 'di cael i fwynhau."

Dywedodd yr hyfforddwr Dave Martin fod gweld gêm y merched yn proffesiynoli yn ysbrydoliaeth i'r rheiny ar lawr gwlad.

"Mae'n rhoi hwb i'r genod achos mae'n rhywbeth iddyn nhw anelu tuag ato, ac mae 'na nifer o genod o'r gogledd [yn nhîm Cymru] hefyd sydd yn braf i weld."