Cyffordd Llandudno: Arestio pump wedi tân 'bwriadol'

  • Cyhoeddwyd
Fflat ar Rodfa Avallon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau tan eu galw i'r digwyddiad ar Rodfa Avallon

Mae pump o bobl wedi'u harestio yn dilyn tân mewn fflat yn Sir Conwy nos Wener.

Y gred yw i'r tân gael ei gynnau "yn fwriadol", yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd criwiau tân eu galw i fflat ar Rodfa Avallon, Cyffordd Llandudno, am 22:00 nos Wener 29 Ebrill.

Llwyddodd pob un oedd yn y fflat i adael heb anafiadau, meddai'r heddlu.

Dywedodd y llu y byddan nhw'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ddydd Sadwrn.

"Rydyn ni'n credu mai digwyddiad bwriadol oedd hwn. Nid oes bygythiad yn parhau i'r gymuned leol."

Pynciau cysylltiedig