Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Birmingham

  • Cyhoeddwyd
Will VaulksFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Vaulks yn sgorio o'r smotyn wedi 82 munud

Roedd hi'n gêm gyfartal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn wrth i Gaerdydd herio Birmingham yn Y Bencampwriaeth.

Wedi gôl gan Jeremie Bela ar ôl tua 20 munud, roedd Caerdydd ar ei hôl hi o 0-1 erbyn yr egwyl.

Ond fe lwyddodd Will Vaulks i rwydo gôl gyntaf y tîm Cymreig yn yr ail hanner drwy sgorio o'r smotyn wedi 82 munud.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros yn yr 19eg safle a Birmingham yn parhau yn yr 20fed safle.