Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 18-23 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Zebre yn erbyn y DreigiauFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe wnaeth y Dreigiau golli o 18-23 yn erbyn Zebre yn Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn.

Sam Davies ennillodd triphwynt gynta'r gêm gyda chic gosb wedi chwe munud o chwarae.

Fe wnaeth Zebre wrthod ildio i'r ymwelwyr - yn fuan roedd hi'n 6-6 wedi dwy gic gosb yr un.

Erbyn yr egwyl roedd y Dreigiau yn colli o 6-11 wedi i Luca Bigi ennill cais gynta'r gêm i'r tîm cartref.

Ond fe wnaeth y Dreigiau frwydro yn ôl wedi hynny, gyda dau gais gan Lewis Jones a Jared Rosser a throsiad Sam Davies yn mynd â'r sgôr i 11-18.

Fe wnaeth Zebre ennill cais cosb i unioni'r sgôr 18-18, wedi i Rosser gael carden melyn, cyn parhau i ennill cais pellach i sicrhau buddugoliaeth o 18-23.

Pynciau cysylltiedig