Cymorth i bobl Wcráin drwy werthiant ci defaid
- Cyhoeddwyd
Bydd ci defaid bach yn cael ei werthu mewn ocsiwn ddydd Mercher, a'r elw i gyd yn mynd i deuluoedd yn Wcráin.
Bydd yr ast 11 wythnos oed yn cael ei gwerthu mewn arwerthiant ar-lein gan gwmni Marchnad Ffermwyr Dolgellau, gyda'r holl elw yn mynd i apêl DEC ar gyfer Wcráin.
Mae'r arwerthwyr yn disgwyl y bydd y ci bach yn gwerthu am bris da o ystyried bod ei mam, Kim, yn dal y record am y pris uchaf erioed a dalwyd am gi defaid mewn arwerthiant.
Cafodd Kim - ci defaid o Dal-y-bont yng Ngheredigion - ei gwerthu yn Chwefror 2021 am £27,100. Roedd wedi'i hyfforddi gan Dewi Jenkins o Dal-y-bont - a werthodd yr ast i ddyn o Sir Stafford.
Cefnogi pobl Wcráin
Mae ci bach Kim nawr yn cael ei werthu gan Eamonn Vaughan, ffermwr o Sir Stafford, gyda'r elw i gyd yn mynd i gynorthwyo teuluoedd sy'n dioddef yn sgil y rhyfel.
Dywedodd Mr Vaughan: "Mae'r digwyddiadau yn Wcráin yn ofnadwy. Fel busnes mae gennym ni gysylltiadau ag Wcráin ac roedden ni eisiau helpu, mae'n achos da.
"Mae'n gi bach da a dwi'n meddwl y bydd hi'n gwneud arian da - yn fy marn i, hi yw'r ci o'r llinach gorau sydd wedi dod ar werth ers amser maith."
'Diddordeb mawr' mewn defaid
Boss yw enw tad y ci bach, ac yn ôl y disgrifiad gwerthu "does dim gwell achos i'w gael i werthu'r unig ast o linach Kim a Boss na Wcráin".
Mae'r hysbyseb yn dweud y bydd holl elw'r gwerthiant yn mynd yn syth i Wcráin, a bod "Marchnad y Ffermwyr Dolgellau wedi cytuno i weithio gyda ni ar ffioedd y gwerthiant".
"Mae brîd yr ast fywiog hon yn siarad dros ei hun. Mae gan y ci bach y geneteg i ragori mewn treialon neu fel ci gweithio."
Mae'n cael ei hadnabod ar hyn o bryd fel Kim Jnr ac mae'r disgrifiad yn dweud wrth iddi weld defaid am y tro cyntaf, iddi ddangos "diddordeb mawr".
Dywedodd Rhys Davies, Prif Weithredwr Marchnad Ffermwyr Dolgellau: "Roedd cael gwerthu'r unig ast fach allan o'r torllwyth hwn gan Kim, deiliad record y byd, yn ein harwerthiant presennol yn fraint ynddo'i hun, ond mae'n wirioneddol anhygoel i'r gwerthwr gynnig rhoi'r holl elw i apêl Wcráin.
"Yn amlwg bu'n rhaid i ni ymateb fel y gallwn ni, ac felly ni fydd comisiwn i'r prynwr na'r gwerthwr ar y lot hon (Lot 137). Rydyn ni'n disgwyl gyda'i phedigri y bydd hi'n gwerthu'n dda iawn ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hi'n mynd i gartref da."
Pan gafodd mam yr ast ei gwerthu dywedodd hyfforddwr Kim, Dewi Jenkins, ei bod yn dalentog iawn.
"Roedd yn gwneud popeth - gweithio'r gwartheg a'r defaid, ac yn barod i weithio i unrhyw un mewn treialon neu ar y fferm.
"Popeth nes i hyfforddi hi i wneud roedd hi'n ei wybod erbyn yr eildro. Roedd hi'n dysgu'n gyflym."
Ar y pryd dywedodd Mr Jenkins ei fod yn drist iawn i werthu Kim ond yn "gobeithio prynu un o'i chŵn bach yn y dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021