Ci defaid o Geredigion yn gwerthu am record o dros £27,000
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Kim ei gwerthu am £27,100 - record ar gyfer ci defaid
Kim, ci o Geredigion, yw'r ci defaid drytaf yn y byd ar ôl cael ei gwerthu am dros £27,000.
Cafodd yr ast 12 mis oed, sydd wedi ei hyfforddi gan Dewi Jenkins o Dalybont, ei gwerthu mewn arwerthiant gan gwmni Farmers Marts o Ddolgellau.
Dywedodd Mr Jenkins mai ffermwr o Sir Stafford oedd wedi ei phrynu.
Y pris uchaf i'w dalu cyn hyn oedd tua £20,000 am Henna, ci defaid o Aberhonddu.
Ar gyfartaledd y pris sy'n cael ei dalu am gi defaid yw tua £2,000.

Dewi Jenkins gyda Tynygraig Jet
Cafodd Kim ei gwerthu ychydig ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn un oed.
Cyn hyn, y ci drytaf i'w werthu dan 12 mis oed oedd un arall o eiddo Mr Jenkins, sef Tynygraig Jet, gafodd ei werthu am £12,000 ym mis Gorffennaf.
Yn ôl Mr Jenkins er bod Kim yn ifanc mae hi hefyd yn ast ddeallus, ac yn gallu gweithio gystal â chi tair oed.
"Roedd hi'n gwneud popeth ac yn gallu gweithio gyda defaid a gwartheg, ac mae hi'n barod ar gyfer gwaith ar y fferm neu dreialon.
"Ac ar ben y cyfan ma' hi o liw coch, lliw sy'n ffasiynol ar y foment."

Dywedodd Mr Jenkins ei fod yn drist o weld Kim yn mynd ond yn falch ei bod yn mynd i gartref da
Dywedodd y Cymro Cymraeg ei fod yn hyfforddi ei gŵn yn Saesneg, gan ganiatáu iddo eu gwerthu i wledydd dros y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Norwy, Gwlad Belg, Ffrainc a Gweriniaeth Iwerddon.
"Roeddwn yn drist i'w gweld yn mynd ond o leiaf dwi'n gwybod ei bod yn mynd i gartref da," meddai Mr Jenkins.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2016