Llaw fawr Llyn Efyrnwy - a'i hefaill yn yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae llun o goeden wedi ei throi yn law enfawr yn estyn tua'r sêr mewn coedwig yng nghanolbarth Cymru wedi cael ei rannu filoedd o weithiau, dolen allanol ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar fel symbol o rym natur.
Y cerflunydd amgylcheddol Simon O'Rourke yw'r artist a greodd Law Fawr Efyrnwy (The Giant Hand of Vyrnwy) o weddillion coeden dalaf Cymru pan gafodd ei difrodi gan storm yn 2011.
Enillodd Simon gomisiwn i greu'r gwaith celf ar lan cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy, neu Lyn Llanwddyn, ym Mhowys a phenderfynodd droi'r bonyn yn law cawr.
"Fy syniad oedd y llaw enfawr yn ymestyn am yr awyr, yn rhannol i ddangos ymgais olaf y goeden i gyrraedd yr awyr," meddai'r cerflunydd sy'n wreiddiol o Lerpwl ond yn byw ac yn gweithio yn Wrecsam ers degawdau.
"Ond cafodd thema'r cawr ei ysbrydoli gan weddill y coed, y coed Douglas Fir enfawr sydd wedi cael yr enw Cewri Efyrnwy.
"Mae'n un o nifer o goed Douglas Fir a blannwyd i helpu i gadw'r llethr ar ymyl y gronfa ddŵr yn ddiogel.
"Felly fe wnaeth y syniadau yna i gyd fy ysbrydoli i greu creadur byw yn ymestyn am yr awyr."
Mae'r coed mawr ar lan y llyn yn dyddio nôl i adeg creu'r gronfa ddŵr yn Efyrnwy yn y 1880au a welodd foddi hen bentref Llanwddyn.
Cyn ei difrodi roedd y goeden yn mesur 63.7m (209tr) - talach na thŵr Pisa, a thros ddwywaith taldra Tŵr Marcwis ym Môn.
Roedd hi'r dalaf yng Nghymru ar y pryd a'r cyd-dalaf yn y DU (roedd y llall yn yr Alban).
Roedd gan Simon fonyn o 50 medr i weithio arno wedi iddi gael ei llifio ac mae dim ond y llaw yn mesur dwy fedr.
Dinistrio a chreu
Mae'r cerfiwr coed, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith, yn defnyddio lli gadwyn i greu ei ddarnau, teclyn sy'n "llawn mynegiant" meddai.
"Mae'n torri mor gyflym ag ydw i'n meddwl felly mae'n teimlo mwy fel mod i'n tynnu llun neu fraslunio pan dwi'n ei ddefnyddio. I mi, mae'n ffordd mynegiannol iawn o greu cerflun. Dwi wrth fy modd efo'r ffaith ei fod yn declyn mor ddinistriol, ond yn gallu creu rhywbeth creadigol.
Mae gweithio yn gynaliadwy yn bwysig iddo: "Dwi ddim yn licio'r syniad o dorri coeden i lawr i'w cherfio hi felly rydw i'n cael fy mhren gan dorwyr coed oedd yn gorfod dod â choeden i lawr am reswm da, fel yn yr achos penodol yma.
"Roedd hi wedi ei difrodi gan storm oedd yn ei gwneud yn beryglus. Ond mi allwn i wneud rhywbeth i roi bywyd newydd iddi."
Llaw arall yn yr Eidal
Er iddo ei cherfio dros ddegawd yn ôl mae'r sylw mae'r goeden yn Llyn Efyrnwy wedi ei gael yn ddiweddar wedi teithio mor bell nes i Simon gael cais i greu un arall fis Ebrill 2022 ym mhentref Allai yn Sardinia.
Felly mae gan law cawr Llanwddyn efaill yn yr Eidal ers rhai wythnosau a Simon wedi rhoi pâr o ddwylo i'r byd.
Fel artist amgylcheddol sy'n ennill ei fywoliaeth drwy dderbyn comisiynau a chystadlu mae Simon wedi arfer creu darnau celf o bren ar draws y byd ac ar nifer o themâu, o Batman i Game of Thrones - cafodd gomisiwn gan gwmni teledu HBO i greu cawg i ddal yr wyau draig oedd yn eiddo Daenerys Targaryen yn y gyfres deledu boblogaidd.
"Natur yw fy mhrif ysbrydoliaeth, hynny a cherfluniau clasurol," meddai Simon a hyfforddodd fel dyluniwr llyfrau plant cyn troi at gerfio coed.
"Dwi'n teimlo cysylltiad gyda phren, y ffordd mae'n tyfu a bioleg coed.
"Mae coed yn anhygoel pan mae rhywun yn dechrau edrych mewn i'r bioleg, mae jyst yn bwnc mor enfawr mae'n amhosibl dysgu popeth."
Chwedlau'r Mabinogi
Mae hanes a chwedloniaeth o ddiddordeb mawr i Simon ac yn ysbrydoli ei waith.
"Dwi wrth fy modd efo straeon y Mabinogion; fe wnes i gyfres o gerfluniau wedi eu seilio ar y Mabinogi mewn parc carafannau yn y Bala. Dwi'n gwirioni ar y chwedlau yna ac mi fuaswn i wrth fy modd yn gwneud mwy, yn bendant.
"Byddai'n wych gweld cerflun enfawr o Flodeuwedd neu rhywbeth fel na."
Ymysg gweithiau eraill Simon yng Nghymru mae draig ar ochr yr A5 ger Tregarth, Bethesda, a gafodd gryn sylw rai blynyddoedd yn ôl a chyfres o 10 cerflun sy'n creu taith drwy Fforest Fawr ger Castell Coch i'r gogledd o Gaerdydd.
Mae modd gweld y llaw fawr ar ochr ogleddol Llyn Efyrnwy drwy barcio yn hen faes parcio'r pentref a dilyn taith fer i'r coed oddi yno.
Hefyd o ddiddordeb: