Covid: Mygydau i barhau mewn ysbytai a chartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y rheol i wisgo mwgwd mewn lleoliadau iechyd fel ysbytai, cartrefi gofal a fferyllfeydd yn parhau yng Nghymru.

Dyna benderfyniad Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw adolygu'r rheolau Covid wedi tair wythnos.

Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella yn dilyn cynnydd mewn achosion o is-amrywiolyn Omicron.

Ond fe rybuddiodd bod achosion Covid yn dal i fod yn uchel ac y bydd parhau i wisgo mygydau mewn mannau iechyd yn gwarchod y bobl fwyaf bregus.

Cafodd y gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ei ddileu ddiwedd mis Mawrth a does dim angen eu gwisgo mewn ysgolion bellach chwaith.

Does dim gofyn i fusnesau osod rheolau rhagor, ond mae disgwyl i asesiadau risg coronafeirws barhau.

Mae'r Prif Weinidog yn cynghori pobl i barhau i wisgo mwgwd mewn mannau prysur dan do, ac i hunan-ynysu os yn teimlo'n sâl neu'n profi'n bositif am Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dyw'r pandemig ddim ar ben ond ry'n ni'n gweld arwyddion calonogol bod lefelau uchel diweddar o heintiadau ar hyd Cymru yn gostwng," dywedodd Mr Drakeford.

"Mae 'na gamau y gallwn ni gyd eu cymryd i warchod ein hunain tra bod coronafeirws yn dal i gylchredeg a gostwng lledaeniad y feirws hyd yn oed ymhellach.

"Mae hyn yn benodol wir mewn mannau lle mae rhai o'r bobl fwyaf bregus ein cymuned yn cael eu trin ac yn byw, a dyna pam ry'n ni'n cadw'r gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau mewn mannau iechyd a gofal."

'Dylai byrddau iechyd ddewis'

Mewn ymateb, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, wedi galw eto am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, ac dweud y dylai byrddau iechyd unigol benderfynu ar reolau'n ymwneud â mygydau.

"Ry'n ni wedi bod yn glir y dylid dileu cyfreithiau coronafeirws brys gan fod sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi gwella'n aruthrol, a gall byrddau iechyd ddefnyddio eu rheolau eu hunain ar fygydau," dywedodd.

"Mae'n hen bryd i'r llywodraeth Lafur roi'r gorau i osgoi proses graffu a lansio ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i'r penderfyniadau a gafodd eu gwneud yn ystod pandemig."

Bydd yr adolygiad nesaf o reolau Covid-19 yn digwydd ar 26 Mai.