Cyfraddau Covid yn gostwng ar draws Cymru unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
profiFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd un o bob 18 o bobl yng Nghymru wedi eu heintio â Covid-19 yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn ôl amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol - ONS.

Mae'r ffigyrau yn dangos fod 172,300 o bobl yng Nghymru â Covid yn yr wythnos ddaeth i ben ar 23 Ebrill.

Mae hynny'n gyfystyr â 5.67% o'r boblogaeth ac yn ostyngiad yn y niferoedd am yr ail wythnos yn olynol.

Mae'r amcangyfrifon yng Nghymru yn parhau yn uwch na gwledydd eraill y DU ond mae cyfraddau'r haint yn gostwng ym mhob man.

Ers haf 2020, mae'r ONS wedi trefnu arolwg wythnosol yng Nghymru.

Dyma'r ffordd bwysicaf i fesur lefelau'r haint ers i'r cynllun profi torfol ddod i ben ddiwedd Mawrth.

Dywedodd yr ONS bod cyfraddau wedi gostwng ym mhob categori oedran yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, ond bod y gyfradd yn ansicr yn yr wythnosau diweddar.

Y grŵp oedran â'r rhagfynegiad o'r nifer uchaf o brofion positif o Covid ar gyfradd ddyddiol oedd pobl 69 a 70 oed (6.36%), gyda gostyngiad i tua 3% ym mhobl dros 85 oed.

Mae'r amcangyfrif yng Nghymru yn uwch na gwledydd eraill y DU ac yn uwch na phob rhanbarth yn Lloegr heblaw am y gogledd ddwyrain.

Mae'n debyg bod tua un o bob 25 person yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u heintio wythnos diwethaf.

Pynciau cysylltiedig