Y Bencampwriaeth: Derby 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Rhwydodd Jordan Hugill ei bedwerydd gol ers ymuno ar fenthyg o Norwich fis Ionawr
Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau triphwynt i'r Adar Gleision ar Pride Park brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn hanner cyntaf di-sgôr, daeth y gôl hwnnw wedi 55 munud diolch i Jordan Hugill.
Gyda chymorth Eli King, llwyddodd yr ymosodwr 29 oed i ddarganfod gornel dde y rhwyd a phasio Ryan Allsop yn y gôl.
Mewn gêm oedd ddigon prin ar gyfleon, llwyddodd amddiffyn yr Adar Gleisio i wrthsefyll pwysau y tîm cartref a sicrhau buddugoliaeth i orffen y tymor.
Daeth Derby agosaf i sgorio yn dilyn cic gornel yn yr hanner cyntaf, ac ergyd Louie Sibley ond fodfeddi dros y trawst.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn gorffen tymor cyntaf Steve Morison wrth y llyw yn yr 18fed safle.