Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 QPR

  • Cyhoeddwyd
Andre GrayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Andre Gray sgoriodd unig gôl y gem wrth i Abertawe golli ddwywaith yn olynol

Colli oedd hanes yr Elyrch mewn canlyniad siomedig ar domen eu hunain.

Yng ngem olaf Mark Warburton fel rheolwr QPR, roedd gôl hwyr Andre Gray yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae'r ganlyniad yn golygu fod tîm Russell Martin yn gorffen y tymor yn 15fed yn y tabl.

Roedd yr Elyrch yn credu iddyn nhw fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond diddymwyd gôl Hannes Wolf wedi'r dyfarnwr cynorthwyol godi'i luman.

Roedd golwr QPR yn brysur yn arbed ymdrechion eraill gan Cameron Congreve a Joel Piroe.

Ond roedd gwrth ymosod y tîm oddi cartref yn drech na thîm Russell Martin, gyda'r triphwynt yn mynd yn ôl i orllewin Llundain heno.