Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 50-31 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr y Gweilch yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch gam yn nes at gyrraedd Cwpan Heineken y tymor nesaf

Roedd hat-tric o geisiau gan Morgan Morris yn ddigon i gadw gobeithion y Gweilch o gyrraedd Cwpan Heineken y tymor nesaf yn fyw.

Sicrhawyd mantais i dîm Dean Ryan o 29-24 ar yr egwyl diolch i geisiau gan Jarred Rosser, Adam Warren a Mesake Doge.

Ond agorwyd y bwlch yn yr ail hanner gyda Reuben Morgan-Williams yn croesi ddwywaith, yn ogystal â cheisiau gan Nicky Smith a Sam Parry, gyda Gareth Anscombe hefyd yn cicio gwerth 15 pwynt i'r tîm cartref.

O ganlyniad mae'r Dreigiau'n aros yn y 15fed safle gydag ond dwy fuddugoliaeth drwy'r tymor.

Gyda George North yn cychwyn ei gêm gyntaf mewn blwyddyn, roedd y Dreigiau gyda rhestr faith o anafiadau i chwaraewyr tyngedfennol, gan gynnwys Aaron Wainwright, Leon Brown, Will Rowlands, Ross Moriarty a Elliot Dee.

Os yw'r Gweilch yn llwyddo i sicrhau pwynt bonws yn y gêm yn erbyn y Bulls ar 20 Mai, bydd yn ddigon i ennill y Tarian Gymreig a chymhwyso ar gyfer prif gystadleuaeth Ewrop ar draul y Scarlets.