Teyrnged teulu i ddyn, 19, a laddwyd ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Robert Christopher Adams, 19, o ardal Bae CinmelFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei deulu fod "Robert yn ddyn ifanc golygus gyda chymaint i edrych ymlaen ato"

Mae teulu dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Nwygyfylchi fore Sul wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Robert Christopher Adams, 19, yn byw yn ardal Bae Cinmel.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod "Robert yn ddyn ifanc golygus gyda chymaint i edrych ymlaen ato".

"Roedd o'n hynod o garedig, yn hael ac yn llawn bywyd. Roedd o wastad eisiau helpu eraill ac roedd ganddo ddigon o amser i bawb.

"Roedd o wrth ei fodd â cheir a gyrru ac yn falch ei fod yn ddiweddar wedi cael dyrchafiad yn ei waith fel ffitiwr teiars.

"Mae ein colled drasig wedi creu gwacter yn ein bywydau - gwacter a fydd yn aros," ychwanegodd y llefarydd ar ran aelodau o'r teulu yng ngogledd Cymru, Rugby a Coventry.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y lôn ddwyreiniol rhwng cyffyrdd Dwygyfylchi a Chonwy

Mae plismyn yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd fore Sul rhwng car Vauxhall Astra a lori ar ffordd yr A55 i gyfeiriad y dwyrain.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Ry'n yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu i rywun oedd yn teithio rhwng Bangor a safle'r gwrthdrawiad i gysylltu â ni ar unwaith."

Pynciau cysylltiedig