Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn harbwr Aberaeron

  • Cyhoeddwyd
AberaeronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff dyn yn yr harbwr yn Aberaeron fore Sul

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn Aberaeron.

Cafwyd hyd i gorff y dyn yn harbwr y dref toc cyn 08:30 fore Sul.

Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae perthnasau agos y dyn wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae adroddiad wedi cael ei baratoi i'r crwner.

Pynciau cysylltiedig