Moffett yn dweud ei bod yn bryd cael gwared ar ranbarthau

  • Cyhoeddwyd
Roedd son am uno'r Gweilch a'r Scarlets yn 2019Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd son am uno'r Gweilch a'r Scarlets yn 2019

Mae'r dyn wnaeth gyflwyno'r drefn o ranbarthau rygbi yng Nghymru yn dweud ei bod yn bryd i gael gwared arnynt - gan ddweud fod Cymru wedi dod yn destun gwawd o ran y byd rygbi.

Dywed David Moffett, sy'n cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, fod angen dileu'r pedwar rhanbarth presennol gan greu tri chlwb newydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanelli.

Daw ei sylwadau yn sgil cyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf ar ddyfodol rygbi yng Nghymru.

Un o'r opsiynau oedd yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad oedd diddymu un o'r pedwar rhanbarth proffesiynol erbyn 2023-24.

Dywedodd Mr Moffatt, wnaeth gyflwyno'r drefn bresennol yn 2003, wrth BBC Cymru: "Mae rygbi yng Nghymru mewn stad o ryfel mewnol cyson.

"Maen nhw'n destun gwawd o ran y byd rygbi - mae angen gwneud rhywbeth i atal hyn.

"Dwi ddim yn gwybod beth mae'r bwrdd gweithredol yn ei ddefnyddio fel llinyn mesur o ran perfformiad ond mae'n amlwg nad yw'n addas, oherwydd pe bai hynny'n wir byddwn wedi gweld gwelliant yn y 10 i 15 mlynedd diwethaf, ond mewn gwirionedd mae wedi mynd am yn ôl."

Y Gweilch, Caerdydd, y Scarlets a'r Dreigiau yw'r pedwar tîm proffesiynol yng Nghymru.

Y camau nesaf?

Y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), sy'n rhedeg y gêm yng Nghymru ynghyd â'r rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru (URC).

Y Bwrdd wnaeth gomisiynu'r adroddiad diweddar ac mae disgwyl iddynt drafod ei gasgliadau ddydd Mercher.

Cyflwynwyd rygbi rhanbarthol yn 2003 ar draul y clybiau cynt, gyda phum tîm wedi'u creu i ddechrau cyn i'r Rhyfelwyr Celtaidd gael eu diddymu flwyddyn yn ddiweddarach.

Nid dyma'r tro cyntaf i uno gael ei awgrymu, gyda chynlluniau i ymuno'r Gweilch a'r Scarlets gyda'i gilydd yn 2019 cyn i'r cynllun gael ei ohirio.