Teyrnged i ddyn 'cariadus', 18, fu farw yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
pedwar llun o DafyddFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Dafydd Hughes wedi'i ddisgrifio fel dyn "cariadus a charedig"

Mae teulu dyn 18 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy wedi rhannu eu teyrngedau iddo.

Bu farw Dafydd Hughes o Abertyswg ar ôl i ddau gar wrthdaro ar Ffordd Brynbuga yn Nrenewydd Gelli-farch oddeutu 13:30 ddydd Sul.

Dywedodd ei deulu bod eu calonnau "wedi torri" ar ôl colli "mab, ŵyr, brawd, nai a ffrind cariadus".

Mae dyn 29 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae dyn a menyw yn eu 50au a gludwyd i'r ysbyty bellach wedi eu rhyddhau.

'Ffrind da'

Wrth rannu'r deyrnged, dywedodd teulu Mr Hughes: "Roedd Dafydd newydd droi'n ddeunaw, roedd ganddo'i fywyd i gyd o'i flaen.

"Roedd e'n fachgen caredig a chariadus oedd yn addoli ei deulu. Roedd e'n ffrind da i nifer o bobl.

"Roedd Dafydd yn gwneud y mwyaf o'i fywyd ac roedd bob amser yn gwenu. Roedd e wrth ei fodd yn pysgota ac yn mynd i sioeau cŵn.

"Roedd Dafydd yn fab, ŵyr, brawd, nai a ffrind cariadus a byddwn ni'n gweld ei eisiau'n fawr."

Mae Heddlu Gwent yn dal i apelio am ragor o wybodaeth am y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig