A525: Galw am wella'r ffordd wedi marwolaeth beic modur
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi galw am wneud ffordd yn Wrecsam yn fwy diogel yn dilyn marwolaeth beiciwr modur.
Bu farw Michael Howard Williams ar ôl i'w feic modur wrthdaro ag Audi Q7 ar 13 Mawrth 2021.
Mewn adroddiad i Gyngor Wrecsam, dywed y Crwner John Gittins fod clawdd yn rhwystro gyrwyr rhag gweld wrth iddyn nhw ymuno â'r A525 o Green Lane.
Gallai mwy o bobl farw ar y ffordd os nad oes newid, meddai.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 12:40 ger Holly Bush, rhwng Bangor-is-y-coed a Whitchurch.
Roedd Mr Williams, o'r Waun yn sir Wrecsam, yn 56 oed.
Ar y pryd, dywedodd ei deulu nad oedden nhw "erioed wedi disgwyl ei golli mor fuan".
"Roedd yn dad cariadus i Georgia, Damien a Tanya ac yn daid arbennig i'w chwe ŵyr. Roedd yn angerddol am feiciau modur, yn ogystal â saethu a physgota.
"Roedd yn ddyn gweithgar fyddai'n gwneud unrhyw beth i'w deulu. Byddwn ni'n ei golli'n fawr."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi siarad â gyrrwr yr Audi ac na chafodd unrhyw un ei arestio.