Y gerdd am feirdd Cymru sy'n ein cysylltu gyda Hwngari
- Cyhoeddwyd
Mae diwrnod "hanesyddol" yn Nhrefaldwyn ddydd Sadwrn, Mai 14, yn dathlu'r cysylltiad annisgwyl rhwng Cymru a Hwngari sy'n deillio o gerdd am wrthsafiad beirdd Cymru yn erbyn brenin Lloegr a gaiff ei dysgu i bob disgybl yn Hwngari. Balint Brunner sy'n esbonio pam:
Ble bynnag ewch chi yn y byd, rydych chi'n siŵr o gyfarfod pobl sy'n gwybod rhywbeth am Gymru a'i diwylliant. Rygbi, y Ddraig Goch neu mynyddoedd Eryri fydd yn dod i'r meddwl i lawer.
Ond os gofynnwch chi i rywun yn Hwngari fodd bynnag, rydych chi'n debygol o gael ymateb gwahanol iawn.
Efallai na fydd Caerdydd yn canu cloch i lawer o Hwngariaid, ond fe fydd tref fach Trefaldwyn yn y canolbarth yn sicr o wneud.
Lladd 500 o feirdd
Yng Nghastell Trefaldwyn mae un o'r cerddi Hwngareg mwyaf erioed wedi ei gosod: Beirdd Cymru (A Walesi Bárdok) gan y bardd enwog János Arany.
Am genedlaethau, mae pob myfyriwr yn Hwngari wedi gorfod dysgu'r gerdd ar eu cof, oherwydd ei phwysigrwydd llenyddol a'i neges hanesyddol.
Mae Beirdd Cymru yn dweud stori chwedlonol lladd 500 o feirdd Cymru yn y castell, wedi iddyn nhw wrthod canu clodydd y Brenin Edward I.
'Dyw'r gerdd ddim am Edward mewn gwirionedd, ond yn hytrach am ymerawdwr Awstria, Franz Josef, yr oedd Arany ei hun wedi gwrthod canu iddo yn dilyn methiant chwyldro yn 1848 yn erbyn yr ymerodraeth.
'Swyno gan Gymru'
Rydw i fy hun yn un o'r miliynau o ddisgyblion Hwngaraidd sydd wedi dweud y geiriau "I Drefaldwyn daeth y teyrn, a'r haul ar fynd i lawr" o flaen y dosbarth.
Ychydig a wyddwn ar y pryd y byddwn i ryw ddydd yn cael fy swyno gan Gymru, yn dechrau dysgu Cymraeg a lawnsio Magyar Cymru, dolen allanol i godi pontydd diwylliannol rhwng Cymru a Hwngari. Doeddwn i'n sicr ddim yn disgwyl i gerdd enwog Arany wneud ailymddangosiad sydyn yn fy mywyd.
'Neges deimladwy'
Dros y ddegawd ddiwethaf mae stori Beirdd Cymru wedi ennyn dipyn o sylw yng Nghymru hefyd. Ysgrifennodd y cyfansoddwr enwog Syr Karl Jenkins gantata yn seiliedig ar y gerdd a chyfieithodd Twm Morys hi i'r Gymraeg; fe roddodd Cyngor Tref Trefaldwyn gydnabyddiaeth wedi ei farwolaeth i János Arany fel Rhyddfreiniwr Anrhydeddus y dref.
Ond nid tan i bobl Trefaldwyn ein synnu gyda neges fideo deimladwy y gwnes i sylweddoli faint yn union roedd y dref ryfeddol hon yn gwerthfawrogi eu cysylltiad gyda Hwngari a'i diwylliant.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl Trefaldwyn wedi canu i ni mewn Hwngareg, addurno eu strydoedd gyda'n baneri ar ddyddiau cenedlaethol Hwngari a datblygu cyfeillgarwch arbennig gyda Kunágota, pentref "Cymreiciaf" Hwngari.
Dyna pam rwyf wrth fy modd yn ymuno gyda'r Maer Jill Kibble a'r Cyngor Tref, yn ogystal â Chymdeithas Ddiwylliannol Cymru-Hwngari, i nodi carreg filltir arbennig yn ein cyfeillgarwch oes.
Dathliad 'hanesyddol'
Ddydd Sadwrn, Mai 14, bydd cannoedd yn ymgasglu yn Nhrefaldwyn ar gyfer p'nawn o weithgareddau diwylliannol Cymreig-Hwngaraidd, a dadorchuddiad plac coffa mewn tair iaith i János Arany yn y dref gan H.E. Dr Ferenc Kumin, Llysgennad Hwngari.
Hwn fydd y tro cyntaf yn hanes 165 mlynedd y gerdd y bydd pobl Cymru a Hwngari yn ymgynnull yn Nhrefaldwyn i ddathlu'r dreftadaeth ddiwylliannol rydyn ni'n ei rhannu.
Mae'r derbyniad hyd yma wedi bod yn hollol wych - bydd teuluoedd o dros y DU yn heidio i Bowys y penwythnos yma, a rhai yn teithio'r holl ffordd o Hwngari i fod yn rhan o'r diwrnod arbennig yma.
Parhau'r cysylltiad unigryw
Mae'r paratoadau wedi dechrau ar gyfer cyngerdd Cymru-Hwngari a thrafodaeth lenyddol. Fe fydd yna gaffi Hwngaraidd a chardiau post i goffáu'r achlysur, gyda Bragdy Monty wedi rhyddhau cwrw arbennig i anrhydeddu'r bardd a grëodd gyfeillgarwch mor bwerus rhwng y dref a Hwngari.
Bydd Diwrnod Hwngaraidd Trefaldwyn, dolen allanol yn un hanesyddol ym mherthynas Cymru a Hwngari. Rydyn ni'n gobeithio bod y garreg filltir nodedig yma'n sicrhau bod y cysylltiad unigryw, amrywiol a chyfareddol yma rhwng ein dau ddiwylliant yn parhau'n gadarn dros y canrifoedd.