Modd delio â phryderon unoliaethwyr am y Wyddeleg - Drakeford

Mae Mark Drakeford wedi dweud y gallai'r Wyddeleg fod yn "iach yn hytrach na'n rhanedig"
- Cyhoeddwyd
Mae gan unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon "bryderon dilys" am y Wyddeleg ond "mae modd mynd i'r afael â nhw", meddai cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, y byddai cytundeb gwleidyddol ar yr iaith Wyddeleg yn "iach yn hytrach na'n rhanedig".
Daw hyn wrth i ddadlau barhau yn Stormont am yr iaith Wyddeleg, gan gynnwys anghytuno am arwyddion dwyieithog.
Dywedodd Mr Drakeford, sy'n annog dwyieithrwydd yma yng Nghymru, nad oes gan unoliaethwyr ddim i'w ofni os yw'r Wyddeleg "yn cael ei defnyddio mewn ffordd sy'n ystyried eu pryderon".
'Y pryderon yn ddilys'
Wrth siarad â rhaglen Sunday Politics ar BBC News NI, dywedodd na ddylid defnyddio iaith "fel pêl-droed wleidyddol".
"Rwy'n credu, os caiff ei wneud yn y ffordd gywir, mae modd mynd i'r afael â'r pryderon," meddai.
"Dyw hynny ddym yn golygu nad yw'r pryderon yn rhai dilys."
Mae datblygu polisïau yng Ngogledd Iwerddon i hyrwyddo'r Wyddeleg wedi bod yn bwnc llosg rhwng unoliaethwyr a chenedlaetholwyr Gwyddelig ers amser hir.
Fe aeth Mr Drakeford ymlaen i ddweud ei fod yn "berffaith gyfforddus" gyda chael hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig.
Pan gafodd ei holi am bryderon unoliaethwyr ynghylch Gwyddeleg, dywedodd nad yw bod yn "Gymraeg yn lleihau ar yr ymdeimlad o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig".
Ond dywedodd Drakeford fod gan unoliaethwyr "bryderon dilys" a bod ganddyn nhw "berffaith hawl i sicrhau bod hynny'n rhan o'r ddadl gyhoeddus".
Mae llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon wrthi'n recriwtio comisiynydd yr iaith Wyddeleg a chomisiynydd ar gyfer traddodiad Ulster-Scots ac Ulster Prydeinig.
Roedd y rolau'n rhannau allweddol o ddeddfwriaeth iaith gafodd ei chyflwyno yn 2022 gan San Steffan.
Mae disgwyl i gyfweliadau ar gyfer y swyddi gael eu cynnal y mis hwn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.