Ymosodiad Caerffili: Heddlu yn rhyddhau tri

  • Cyhoeddwyd
Canol tref Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dyn a menyw eu hanafu yn dilyn y digwyddiad yn ardal canolfan siopa Cwrt y Castell yng Nghaerffili

Mae tri pherson a gafodd eu harestio wedi i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerffili fore Sadwrn wedi eu rhyddhau.

Mae merch, 17, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod eu ymholiadau yn parhau ac mae'r ddau arall - dyn 27 oed a llanc 17 oed wedi eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw o gwmpas 01:25 fore Sadwrn wedi adroddiadau o achos o drywanu y tu allan i ganolfan siopa Cwrt y Castell yng Nghaerffili.

Roedd dyn 32 oed yn cerdded gyda menyw 29 oed pan yr honnir bod grŵp o bobl wedi dod atyn nhw a thrywanu'r dyn yn ei stumog.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd.

Mae'r dyn bellach mewn cyflwr sefydlog ac mae'r fenyw wedi gadael yr ysbyty wedi iddi gael triniaeth ar gyfer anafiadau i'w phen.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ac yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 01:00 a 01:30.

Pynciau cysylltiedig