Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 18-19 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Williams yn croesi i Gaerdydd, eu hunig gais o'r gêm

Llwyddodd Caerdydd i drechu eu cymdogion o Gasnewydd mewn gêm agos ar Rodney Parade nos Wener.

Methiant Will Reed i drosi cic gosb yn yr eiliadau olaf oedd y foment dyngedfennol wrth i'r Dreigiau orffen y tymor heb yr un fuddugoliaeth gartref.

Ond doedd ddim diffyg angerdd, ac yn wir gall y canlyniad wedi mynd yr un ffordd neu'r llall.

Gorffennodd y ddau dîm gydag ond 14 chwaraewr ar y maes yn dilyn cardiau coch i Liam Belcher a Joe Davies.

Rhys Priestland oedd y prif sgoriwr drwy gicio gwerth 14 pwynt, yn ogystal â chais Lloyd Williams, sef seren y gêm.

Ollie Griffiths a Jack Dixon oedd sgorwyr ceisiau'r Dreigiau.