Teyrngedau wedi marwolaeth cyn-chwaraewr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-chwaraewr Abertawe fu farw yn ystod gêm bêl-droed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Roedd Mark Davies yn chwarae i Lanelli yn rownd derfynol Cwpan Cyn-filwyr Cymru dros 45 oed yn erbyn Pen-y-bont ddydd Sul.
Roedd yr amddiffynnwr 49 oed wedi chwarae'n broffesiynol i Abertawe, gan wneud ymddangosiad i'r clwb yn erbyn Monaco yng Nghwpan Pencampwyr Cwpanau Ewrop yn 1991.
Aeth ymlaen i chwarae i Ferthyr Tudful.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran clwb pêl-droed Abertawe: "Rydym wedi'n tristau i glywed am farwolaeth Mark Davies.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Mark ar yr adeg drist yma."
Mewn neges ar Twitter dywedodd clwb pêl-droed Llanelli: "Mae ein cydymdeimlad a'n meddyliau twymgalon yn mynd i deulu Mark ar yr adeg drist yma.
"Bu i Mark farw yn chwarae'r gêm yr oedd yn ei charu a'i mwynhau am flynyddoedd lawer yn yr ardal hon.
"Bydd colled fawr ar ôl Mark gan bawb oedd yn ei adnabod. Roedd Mark yn ddyn gwirioneddol hyfryd, yn ŵr bonheddig ar ac oddi ar y cae."