Arestio tri wedi achos o drywanu ger canolfan siopa
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddyn gael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw o gwmpas 01:25 fore Sadwrn mewn ymateb i adroddiadau o achos o drywanu tu allan i ganolfan siopa Cwrt y Castell yng Nghaerffili.
Roedd dyn 32 oed yn cerdded gyda menyw 29 oed pan yr honnir bod grŵp o bobl wedi dod atyn nhw a thrywanu'r dyn yn ei stumog.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd, ble mae'r dyn mewn cyflwr difrifol ac mae'r fenyw'n cael triniaeth at anafiadau i'w phen.
Mae dyn 27 oed ynghyd â bachgen a merch, ill dau yn 17 oed, wedi cael eu harestio.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ac yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 01:00 a 01:30.