John Toshack: Pum gêm gofiadwy
- Cyhoeddwyd
Mae John Toshack yn un o'r pêl-droedwyr mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru, gan chwarae i dri chlwb yn ystod ei yrfa; Caerdydd, Lerpwl ac Abertawe.
Roedd hefyd yn llwyddiannus iawn yn ei yrfa'n rheoli ledled Ewrop. Ymysg y timau mae wedi rheoli mae Abertawe, AS Saint-Étienne yn Ffrainc, Beşiktaş J.K. yn Nhwrci, a'r timau Real Sociedad, Real Madrid, Real Murcia a Deportivo de La Coruña yn Sbaen.
Yr wythnos yma cafodd y ffilm 'Tosh' ei rhyddhau, sy'n olrhain cyfnod arbennig Toshack wrth y llyw yn Abertawe. Arweiniodd y clwb o waelod y bedwaredd adran yn Lloegr yn 1978 i frig yr adran gyntaf erbyn Gwanwyn 1982.
Rhywun sy'n gwybod cryn dipyn am yrfa John Toshack yw'r academydd a chefnogwr Abertawe, Dr Meilyr Emrys. Yma mae Meilyr yn nodi pum gêm allweddol yng ngyrfa'r cawr o flaenwr a rheolwr, John Toshack.
1. Lerpwl 3-0 Borussia Mönchengladbach
Cymal Cyntaf Rownd Derfynol Cwpan UEFA - Anfield, 10fed Mai 1973.
Wedi dechrau ei yrfa gyda chlwb ei ddinas enedigol, treuliodd John Toshack saith mlynedd a hanner gyda Lerpwl, gan chwarae bron i ddau gant a hanner o gemau i'r cochion rhwng 1970 a 1978 dan arweiniad Bill Shankley a Bob Paisley.
Enillodd yr hen Adran Gyntaf ar dri achlysur (1973, 1976 a 1977) ac 'roedd hefyd yn aelod o'r tîm gafodd y gorau ar Newcastle yn rownd derfynol Cwpan Lloegr ym 1974.
Sgoriodd Toshack 96 gôl i Lerpwl, gan gynnwys deg mewn gemau Ewropeaidd ac yn rownd derfynol un o gystadlaethau cyfandirol UEFA y disgleiriodd y cawr o Gaerdydd fwyaf yng nghrys coch Lerpwl.
Er i anaf ei rwystro rhag bod yn rhan o'r tîm wnaeth drechu Borussia Mönchengladbach yn rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop ym 1977 (pan enillodd Lerpwl y tlws hwnnw am y tro cyntaf), 'roedd Tosh eisoes wedi gwneud cyfraniad allweddol-bwysig mewn gornest flaenllaw arall yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, bedair blynedd ynghynt.
Wedi i law trwm ddod a diwedd cynnar i gymal cyntaf rownd derfynol Cwpan UEFA ar 9fed Mai 1973, penderfynodd Bill Shankly newid ychydig ar ei dîm cyn yr ailchwarae'r diwrnod canlynol.
Ag yntau bellach yn argyhoeddedig bod capten yr Almaenwyr, Günter Netzer, yn wan yn yr awyr, penderfynodd y rheolwr Albanaidd amnewid Brian Hall (oedd wedi bod yn rhan o ganol cae Lerpwl y noson flaenorol) am John Toshack, gan obeithio y gallai'r Cymro tal a chorfforol wneud yn fawr o wendidau ymddangosiadol amddiffynnwr canol enwog Mönchengladbach.
Talodd y penderfyniad tactegol hwnnw ar ei ganfed, wrth i'r cochion ennill yr ailchwarae o dair i ddim, gyda Tosh yn rhannol gyfrifol am bob un o'r goliau.
2. Cymru 3-0 Yr Alban
Pencampwriaeth Gwledydd Prydain - Parc Ninian, 19eg Mai 1979.
Ochr yn ochr ag ennill toreth o dlysau gyda chochion Glannau Merswy, 'roedd John Toshack hefyd yn un o sêr amlycaf tîm cenedlaethol Cymru drwy gydol y 1970au.
Cynrychiolodd y blaenwr mawr ei wlad ar ddeugain achlysur rhwng 1969 a 1979, gan sgorio tair ar ddeg gôl.
Rhwydodd Tosh dair o'r goliau hynny ar yr un prynhawn ym mis Mai 1979, pan sgoriodd 'hatric berffaith' (gôl gyda ei droed dde, droed chwith, a pheniad) yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.
Ar ei seithfed ymgais, dyma oedd y tro cyntaf i John Toshack fwynhau llwyddiant yn erbyn yr Albanwyr.
Yn wir, er bod y ddwy wlad yn cyfarfod yn flynyddol fel rhan o Bencampwriaeth Gwledydd Prydain, nid oedd Cymru wedi llwyddo i gael y gorau ar yr Alban ers Hydref 1964.
Ar yr un pryd, roedd buddugoliaeth ddadleuol yr ymwelwyr dros eu 'cefndryd Celtaidd' yn Anfield ddeunaw mis ynghynt (mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1978) hefyd yn parhau i fod yn glir yn y cof ac felly roedd gweld Tosh yn canfod rhwyd yr Albanwyr dair gwaith yn felys iawn i fwyafrif y dorf o dros 20,000 ym Mharc Ninian.
Mae tîm pêl-droed dynion Cymru bellach wedi chwarae bron i 700 o gemau rhyngwladol swyddogol (ers iddynt gyfarfod â'r Alban am y tro cyntaf yn Glasgow ym mis Mawrth 1876), ond dim ond ar 16 achlysur mae un o chwaraewr y Dreigiau wedi llwyddo i sgorio o leiaf tair gôl yn yr un gêm.
3. Preston North End 1-3 Abertawe
Ail Adran Cynghrair Lloegr - Deepdale, 2il Mai 1981.
Wedi iddo adael Lerpwl, penodwyd John Toshack yn chwaraewr-reolwr ar glwb Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi 1978. Yn 29 oed, ef oedd y rheolwr ieuengaf yn y Gynghrair Bêl-droed.
Cafodd lwyddiant yn syth, gan iddo arwain yr Elyrch at ddyrchafiad o'r Bedwaredd Adran lai na deufis yn ddiweddarach.
Gyda gwŷr y Vetch angen pwynt o'u gêm gynghrair ddiwethaf, peniodd Tosh y gôl agoriadol yn erbyn Halifax, cyn i Alan Curtis sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref ychydig funudau cyn y diwedd.
Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, sgoriodd Toshack gôl hollbwysig arall i'r Elyrch: gyda'r clwb Cymreig angen ennill i gael dyrchafiad y tro hwn, llwyddodd y chwaraewr-reolwr i ganfod y rhwyd gyda pheniad hwyr yn erbyn Chesterfield.
Ag yntau newydd ddod ymlaen fel eilydd, roedd y gôl honno'n ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth a chadarnhau lle Abertawe yn yr Ail Adran ar gyfer y tymor canlynol.
Er bod dyddiau Tosh fel chwaraewr bellach yn dirwyn i ben, parhaodd ei dîm i fod yn llwyddiannus wrth iddo eu harwain o'r fainc ac - yn dilyn dwy flynedd yn yr ail haen - cwblhawyd esgyniad anhygoel yr Elyrch i'r Adran Gyntaf yn Preston ar 2il Mai 1981.
Unwaith eto, 'roedd yn rhaid i Abertawe ennill gêm gynghrair ddiwethaf y tymor er mwyn sicrhau dyrchafiad.
Ond ychwanegwyd at y ddrama a'r tensiwn yn Deepdale, oherwydd bod y tîm cartref angen buddugoliaeth yn ddirfawr hefyd, â hwythau mewn dyfroedd dyfnion tua gwaelod tabl yr Ail Adran.
Wedi chwarter cyntaf tawel, Abertawe darodd gyntaf, gyda gôl wych gan Leighton James: torrodd yr asgellwr rhyngwladol i mewn o'r asgell chwith, cyn chwipio ergyd gywrain y tu hwnt i gyrraedd y profiadol Roy Tunks, oedd rhwng y pyst i'r tîm cartref.
Dyblwyd mantais yr ymwelwyr dri munud yn ddiweddarach, pan fethodd Tunks rwystro ergyd Tommy Craig ac yn sydyn, 'roedd gan yr Elyrch un droed yn yr Adran Gyntaf.
Ond er bod seiniau 'Cwm Rhondda' a 'Hen Wlad Fy Nhadau' bellach yn atseinio o amgylch y stadiwm, gwrthododd Preston ildio a rhoddwyd llygedyn o obaith i'r tîm cartref pan sgoriodd Alex Bruce gydag ychydig dros ddeg munud i fynd.
Dwysaodd nerfusrwydd y 10,000 o gefnogwyr Cymreig oedd wedi meddiannu hanner Deepdale, wrth i ymdrechion gan Baxter ac Elliott ddod yn anghyfforddus o agos at gôl Dave Stewart.
Ond wrth i'r Lancastriaid barhau i wthio'n daer am ail gôl, torrodd Alan Curtis yn rhydd i lawr yr asgell dde, cyn chwarae'r bêl yn sgwâr at Robbie James, oedd ar ochr cwrt cosbi North End.
Llwyddodd yntau i ganfod Jeremy Charles ac wrth i'r 'Fyddin o Jacs' yn y dorf ddal eu gwynt, taranodd yr ymosodwr canol y bêl i gornel uchaf y rhwyd o ddeg llath.
O dan arweiniad Tosh, roedd Abertawe wedi cyrraedd haen uchaf y Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf erioed ac ychydig fisoedd ar ôl y fuddugoliaeth enwog yn Preston, mwynhaodd y crysau gwynion brynhawn hanesyddol arall, pan drechwyd Leeds United o bump gôl i un ar y Vetch.
Yn sgil y canlyniad hwnnw, roedd Elyrch John Toshack bellach wedi esgyn yr holl ffordd o'r Bedwaredd Adran i frig yr Adran Gyntaf.
Wedi i Tosh gael ei goroni'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 1981, gorffennodd ei dîm y tymor yn y chweched safle yn y gynghrair (gan ennill Cwpan Cymru am yr ail waith o'r bron hefyd).
4. Real Madrid 3-2 Barcelona
La Liga - Estadio Santiago Bernabéu, 15fed Chwefror 1990.
Ar ôl ei gyfnod anhygoel o lwyddiannus gydag Abertawe, aeth John Toshack i reoli ar gyfandir Ewrop.
Yn dilyn tymor gyda Sporting CP (ym Mhortiwgal), bu'r Cymro'n arwain Real Sociedad am bedair blynedd (gan ennill y Copa del Rey ym 1987), cyn cael ei benodi'n rheolwr ar Real Madrid ym 1989.
Yn ei unig dymor llawn wrth y llyw yn y Bernabéu, llwyddodd John Benjamin (fel y gelwid Tosh yn Sbaen) i sicrhau bod ei dîm yn hawlio pencampwriaeth La Liga am y pumed tro o'r bron ac 'roedd y modd y cyflawnodd sêr Los Blancos hynny yn eithriadol o drawiadol.
Enillodd Real 17 o'u 19 gêm gartref yn y gynghrair yn ystod tymor 1989-90, gan ganfod y rhwyd 78 o weithiau (neu mwy na phedair gwaith y gêm, ar gyfartaledd) wrth wneud hynny.
Drwyddi draw, sgoriodd Los Blancos 107 o goliau wrth iddynt ennill La Liga o dan arweiniad y Cymro.
Ar y pryd, hwn oedd y cyfanswm goliau tymhorol uchaf yn hanes y gynghrair ac felly 'roedd hi'n eithaf eironig mai gyda gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Real Valladolid y seliodd 'y Gwynion' y bencampwriaeth, yn y pen draw.
I raddau mawr, buddugoliaeth Real Madrid dros yr hen elynion o Barcelona, ddeufis ynghynt, oedd y canlyniad tyngedfennol ac yn sgil hynny, yr ornest honno - ar 15fed Chwefror 1990 - oedd un o brif uchafbwyntiau cyfnod 'JB' ym mhrifddinas Sbaen.
Wedi i Míchel roi Los Blancos ar y blaen gydag ergyd isel o ugain llath, ychwanegodd Emilio Butragueño ail gôl ym munud olaf yr hanner cyntaf, cyn i'r peiriant sgorio o Fecsico, Hugo Sánchez, ymestyn mantais y tîm cartref ymhellach, gyda chic o'r smotyn, yn syth ar ôl yr egwyl.
Tarodd Barça yn ôl gyda dwy gôl sydyn gan Julio Salinas, a bu bron i'r ymwelwyr ddod yn gyfartal, ond gwrthododd y dyfarnwr ganiatáu ymdrech Roberto, gan fod Salinas wedi troseddu ychydig cyn i'r bêl gyrraedd y rhwyd.
Aeth pethau'n flerach ar ôl hynny, wrth i rwystredigaeth gael y gorau ar rai o chwaraewyr y Blaugrana: gyrrwyd Ronald Koeman o'r cae wedi iddo gicio Llorente a munudau yn ddiweddarach, gwelodd Aloísio gerdyn coch am benio Martin Vazquez.
Drwy ennill ail El Clásico'r tymor, roedd Los Blancos wedi ymestyn eu mantais ar frig tabl y gynghrair i chwe phwynt (gyda deuddeg gêm ar ôl i'w chwarae) ac wrth iddynt barhau i ennill gemau yn ddidrugaredd, tyfodd y bwlch hwnnw i naw pwynt erbyn diwedd y tymor.
Ond er bod ei dîm wedi sicrhau pencampwriaeth La Liga mewn modd mor awdurdodol a chyfforddus, ni chafodd John Benjamin lawer o gyfle i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.
Yn wir, ar ôl i Real gael dechrau siomedig i'r tymor canlynol, cafodd y Cymro ei ddiswyddo ym mis Tachwedd 1990.
Yn dilyn tair blynedd arall yn rheoli Sociedad a chyfnodau gyda Deportivo de La Coruña a Beşiktaş (yn Nhwrci), dychwelodd Tosh i arwain Real Madrid am yr ail waith ym mis Chwefror 1999.
Ond byr iawn oedd ei ail gyfnod yn y Bernabéu hefyd: cafodd y cyn-ymosodwr o Gaerdydd ei ddiswyddo ar ôl dim ond naw mis, yn dilyn dadl gyhoeddus gyda llywydd y clwb, Lorenzo Sanz.
5. Cymru 2-1 Trinidad a Thobago
Gêm gyfeillgar - Arnold Schwarzenegger Stadion, Graz, 27ain Mai 2006.
Bu John Toshack yn rheolwr ar dîm dynion Cymru ddwywaith ac 'roedd ei ddau gyfnod wrth y llyw yn ddadleuol.
Ag yntau yn argyhoeddedig bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei gamarwain ynglŷn ag ymadawiad ei ragflaenydd, Terry Yorath, dim ond am 47 diwrnod - neu un gêm (sef colled o dair gôl i un yn erbyn Norwy) - yr arhosodd Tosh yn y swydd ar ôl iddo gael ei benodi am y tro cyntaf ym 1994.
Ond bu wrth yr awenau am ddipyn hirach pan ddychwelodd ddegawd yn ddiweddarach. Yn wir, Mike England yw'r unig reolwr sydd wedi arwain tîm dynion Cymru ar fwy o achlysuron na Toshack.
Ond er gwaethaf ei hirhoedledd, mae'n debyg mai ail gyfnod John Toshack gyda'r tîm cenedlaethol oedd ei 'amser fwyaf rhwystredig fel rheolwr'.
Gyda nifer o chwaraewyr cymwys yn ymddangos yn amharod i ymroi yn llwyr i'r achos (wrth iddynt dynnu'n ôl o gemau ar y funud olaf), nid oedd gan Toshack ddewis ond ymddiried mewn toreth o unigolion ifanc a dibrofiad.
Amlygwyd hynny ar ddiwedd mis Mai 2006, pan deithiodd Tosh â'i garfan amhrofiadol i Awstria, er mwyn wynebu Trinidad a Thobago, oedd yn paratoi ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd y mis canlynol.
Wedi i Stern John roi'r 'Soca Warriors' ar y blaen ar ôl ychydig dros hanner awr, sgoriodd Robert Earnshaw ddwywaith, i sicrhau buddugoliaeth i Gymru o flaen torf o 8,000 yn Stadiwm Arnold Schwarzenegger.
Ag yntau yn ddim ond 16 mlynedd a 315 diwrnod oed, camodd Gareth Bale i mewn i'r llyfrau hanes pan ddaeth i'r maes yn Graz, gan mai ef oedd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli tîm dynion Cymru ar y pryd.
Rai blynyddoedd wedi iddo roi'r gorau i reoli'r tîm cenedlaethol, soniodd John Toshack am ei falchder bod cymaint o sêr Ewro 2016 wedi cael eu cyfleodd cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol tra roedd ef wrth y llyw.
Yn wir, cyn-seren Lerpwl oedd yn gyfrifol am roi capiau cyntaf i 14 o'r 23 chwaraewr oedd yn rhan o garfan Chris Coleman yn Ffrainc.
Hefyd o ddiddordeb: