Arestio dyn wedi i fenyw gael ei tharo gan gar

  • Cyhoeddwyd
Stryd Newydd, Pontnewydd, CwmbranFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Newydd ym Mhontnewydd ddydd Llun

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes 64 oed gael ei tharo gan gar yng Nghwmbrân ddydd Llun.

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent a pharafeddygon eu galw i wrthdrawiad rhwng car a cherddwr ar Stryd Newydd, Pontnewydd toc wedi 16:00 ddydd Llun 16 Mai.

Mae'r ddynes o ardal Cwmbrân mewn cyflwr sy'n peryglu ei bywyd ac yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Fe dderbyniodd hi anafiadau i'w chefn, ei phen a'i choesau, meddai'r heddlu.

Cafodd dyn 22 oed o Gwmbrân ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mae'r dyn wedi cael ei ryddhau wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig