Nifer y padlfyrddwyr sy'n mynd i drafferthion wedi dyblu
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i bobl fod yn fwy gofalus wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr.
Daw wedi i raglen Newyddion S4C ddarganfod bod achosion o bobl sy'n mynd i drafferthion wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gweithgareddau fel padlfyrddio a chaiacio wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diweddar.
Ond, gyda hynny mae mwy o bobl yn gorfod cael eu hachub o sefyllfaoedd peryglus.
Ar ôl profiad dychrynllyd ar y môr rai blynyddoedd yn ôl, y gronfa ddŵr ydy'r unig le mae Cory Owens yn teimlo'n ddiogel ar ei badlfwrdd.
"Cwpl o flynyddoedd yn ôl aeth chwaer fi a fi mas ar y môr ar y paddleboards. Fe 'naethon ni rentu nhw a 'wedodd y dyn bod y conditions yn iawn," meddai.
"Fe aethon ni mas mewn un direction yn iawn ond oedden ni ffaelu dod nôl wedyn. Oedden ni'n trio ond methu symud lot.
"Roedden ni'n chwifio i mam a dad i gael help, ond roedden nhw'n meddwl mai jyst chwifio helo oedden ni i ddechrau.
"Fe n'ethon nhw sylwi wedyn bod ni isie' help ac fe ddaeth dyn mas ar jetski i'n helpu.
"Roedd e'n brofiad scary. Chi jyst yn meddwl am y gwaethaf a ma'r meddyliau yma yn mynd trwy'ch pen chi."
Dydy profiad Cory ddim yn anghyffredin. Mewn blwyddyn fe gynyddodd nifer y bobl gafodd eu hachub yng Nghymru 22% rhwng 2020 a 2021.
Mae ffigyrau Sefydliad Brenhinol y Badau Achub yn cynnwys pobl aeth i drafferthion wrth wneud amryw o weithgareddau dŵr - o hwylio i fod ar feiciau dŵr.
Ar gyfer y rhai ar badlfwrdd, fe wnaeth i ffigwr fwy na dyblu o 15 i 32.
Digwyddiad trasig Hwlffordd
Diwedd yr hydref y llynedd fe ddaeth un achos i ddiweddglo hynod o drasig, ar ôl i bedwar person farw ar Afon Cleddau yn Hwlffordd tra'n padlfyrddio.
Bu farw Paul O'Dwyer, 42 o Aberafan, Morgan Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Ar draeth Aber-porth ar lan Bae Ceredigion, mae'r môr yn dawel, ond mae achubwyr bywyd yma yn paratoi at haf prysur arall.
"Mae llawer mwy o bobl wedi dod i'r traeth lawr fan hyn yng Ngheredigion yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Tirion Dowsett, goruchwylydd achubwyr bywydau gyda Sefydliad Brenhinol y Badau Achub.
"Mae llawer mwy o bobl yn defnyddio pethau fel padlfyrddau a caiacs ar y traeth.
"Ni'n brysur iawn. Ni'n trio siarad gyda phob un sy'n mynd mewn i'r môr. Ein bwriad ni yw ceisio atal pethau rhag digwydd cyn iddyn nhw ddigwydd yn y môr."
Mae'n dweud mai'r cyngor pwysicaf os yn defnyddio padlfwrdd neu gaiac yw gwisgo siaced bywyd a mynd â ffôn symudol neu radio gyda chi i alw am help pe bai angen.
Cadw'n ddiogel cyn mentro ar y môr ydy'r neges felly - un sy'n cael ei ategu gan yr hyfforddwr awyr agored Rhys Pinner o gwmni Cardiff Paddleboard and Kayak.
"Dwi'n gweithio mewn lot o lefydd gwahanol, dwi'n gweithio ar y môr, ar afonydd ac mae'r amodau o hyd mor wahanol," meddai.
"Ewch am wers, mae 'na lot o gwmnïau ar hyd Cymru sy'n rhedeg gwersi. Mae 'na lot o adnoddau ar-lein hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021