Profiad 'brawychus' dynes o Ben Llŷn tra'n padlfyrddio
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ben Llŷn a aeth i drafferthion tra'n padlfyrddio yn galw ar bobl i baratoi cyn mynd ar y môr.
Cafodd Zoe Williams ei dal gan wyntoedd cryfion oddi ar draeth Trefor yn gynharach yn y mis.
Wedi iddi alw Gwylwyr y Glannau, cafodd ei hachub gan griw RNLI Porthdinllaen.
Dywedodd bod y profiad "brawychus" yn golygu na fydd hi'n mentro'n ôl ar y môr am y tro.
'Penderfyniad ar y spot'
Roedd Ms Williams, 27 oed o Bwllheli, wedi bod yn mwynhau diwrnod ar y traeth gyda'i phartner, Gareth, ar ddydd Sul, 13 Mehefin.
Wrth iddo osod eu caiac yn ôl yn eu car, aeth hi allan ar ei phadlfwrdd. Yn sydyn, tua 20:40, aeth i drafferthion.
"Dim ots faint mor galed o'n i'n padlo, roedd y gwynt yn f'erbyn i ac ro'n i'n cael cael fy nhynnu allan i'r môr," meddai.
"Ges i fy nhynnu allan yn reit sydyn ac o'n i'n gorfod gwneud penderfyniad ar y spot - o'n i un ai'n dod oddi ar y paddleboard ac yn nofio i'r lan, neu gadael iddo fo fynd â fi ac yn ffonio am gymorth.
"O'n i jyst yn teimlo mor ofn, mor sydyn 'nath hyn droi, mor sydyn 'nath y tywydd droi. O'dd y môr yn hollol llonydd pan aethon ni allan."
Gan fod ganddi ei ffôn mewn bag sy'n gwrthsefyll dŵr, galwodd Wylwyr y Glannau, a fu'n siarad gyda hi wrth ddisgwyl y bad achub.
"Yn y cyfamser, o'n i wedi drifftio milltir a hanner allan, oedd yn scary achos bod y tonnau yn mynd yn fwy a'r tywydd yn troi, ac o'dd hi'n dechrau tywyllu hefyd," meddai.
Yn 2020, cafodd criwiau'r RNLI eu galw 88 o weithiau at badlfyrddwyr mewn trafferthion ar draws y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Roedd tua hanner ohonyn nhw wedi eu tynnu i'r môr gan y tonnau, a 12 o'r achosion wedi arwain at achub bywyd.
"Y cyngor sydd gan yr RNLI ar gyfer padlfyrddwyr ydy, yn gyntaf, i gofio gwisgo siaced achub neu siaced arnofio," esboniai Mali Parry-Jones o fad achub Porthdinllaen.
"Hefyd mynd â modd i alw am help efo nhw [fel] ffôn symudol a'i gadw fo mewn câs dal dŵr.
"Hefyd gwneud yn siŵr bod y tennyn, neu'r leash, yn cael ei wisgo am eich ffêr i wneud yn siŵr eich bod chi a'r padlfwrdd ddim yn cael eich gwahanu, achos mae hi mor bwysig eich bod chi'n aros ar y bwrdd os ydych chi'n mynd mewn i drwbl."
Dywedodd Ms Williams ei bod hi wedi cael hunllefau yn dilyn y digwyddiad, a'i bod yn "pryderu" am fynd yn ôl ar y môr ar ei bwrdd wedi'r hyn ddigwyddodd iddi.
Mae hi hefyd yn poeni wrth weld padlfyrddwyr ar y môr heb offer diogelwch.
"Dyna pam dwi'n rhannu'r stori 'ma, rili - i godi ymwybyddiaeth am ba mor bwysig ydy hi bod rhywun yn paratoi ac yn mynd â'u ffôn efo nhw.
"Mae'r pouches ar gael gan yr RNLI am ddim ac ar gael ar y we am y nesa' peth i ddim.
"Hefyd pa mor bwysig ydy buoyancy aids. Dwi'n gwybod dy'n nhw ddim yn edrych yn grêt nac yn cŵl ond maen nhw mor bwysig.
"Mae'n gallu achub bywyd a 'dwn i ddim beth fasa wedi digwydd 'swn i ddim wedi paratoi a mynd â'r rhain efo fi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020