Cyn-gyfarwyddwr Dawnus yn monitro prosiect £1bn Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Timothy Lowe (ar y dde eithaf) yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru 2017
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Timothy Lowe, sydd yn y llun yma (ar y dde eithaf) yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru 2017, yn gyfarwyddwr cyllid cwmni a aeth i'r wal gyda dyledion enfawr

Roedd dyn sy'n monitro sut mae miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar brosiect ffordd mawr yn ganolog i un o fethiannau corfforaethol mwyaf Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, gall BBC Cymru ddatgelu.

Mae Timothy Lowe yn gyfarwyddwr consortiwm Cymoedd y Dyfodol, sy'n cwblhau rhan olaf ffordd ddeuol Blaenau'r Cymoedd, gwerth £1bn.

Cyn ei benodi, roedd yn gyfarwyddwr cyllid Dawnus Construction.

Aeth y cwmni i'r wal yn 2019 gyda dyledion o bron i £50m.

Dywedodd Banc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, fod penodiad Mr Lowe "wedi mynd trwy'r gwiriadau arferol".

Mae rhiant-gwmni Dawnus hefyd yng nghanol ymchwiliad gan y gweinyddwyr ynghylch canslo 12,000 o gyfranddaliadau, dri mis cyn mynd i'r wal.

Beth ddigwyddodd i Dawnus?

Roedd Dawnus o Abertawe wedi tyfu'n gyflym i fod yn gwmni adeiladu mawr, gyda gwaith yn amrywio o ysgolion newydd ym Mhowys, i gyswllt rheilffordd HS2 yng nghanolbarth Lloegr, i brosiectau yng ngorllewin Affrica.

Ond ym mis Mawrth 2019 aeth i ddwylo'r gweinyddwyr, gan ddod â 44 o brosiectau i ben, gan gynnwys gwaith ar ailddatblygu canol dinas Abertawe ac ar ffordd liniaru ym Manceinion.

Cafodd cannoedd o gyflenwyr o Gymru a ledled y DU eu heffeithio gan y cwymp.

Yn ogystal â chontractwyr preifat, ymhlith y rhai a gollodd arian oedd cyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys cyngor Powys, a gollodd £1.3m, a Llywodraeth Cymru ei hun, a gollodd £500,000.

Disgrifiad o’r llun,

Consortiwm Cymoedd y Dyfodol, y mae Mr Lowe yn gyfarwyddwr arno, sydd â'r dasg o gwblhau'r darn olaf gwerth £1bn o ffordd ddeuol Blaenau'r Cymoedd

Ym mis Hydref 2020, 18 mis ar ôl y cwymp, daeth Mr Lowe yn gyfarwyddwr consortiwm Cymoedd y Dyfodol i gwblhau rhan olaf y gwaith deuoli ar ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Merthyr Tudful a Hirwaun yng Nghwm Cynon.

Hwn fydd y prosiect cyntaf i gael ei adeiladu o dan fodel buddsoddi cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.

Yn hytrach na thalu cost fawr ymlaen llaw, mae Llywodraeth Cymru yn lledaenu'r gost dros gyfnod hirach, gan dalu am gost adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r ffordd.

Ar ddiwedd y contract bydd y ffordd yn cael ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.

Yn achos y prosiect hwn, cost y gwaith yw £590m. Fodd bynnag, fe fydd Llywodraeth Cymru yn talu £38m dros 30 mlynedd, gan fynd â chyfanswm y taliad i £1.14bn, gan ei wneud y cynllun ffordd drutaf yng Nghymru.

'Beth oedd y broses benodi?'

Dywedodd AS Plaid Cymru Luke Fletcher fod cwestiynau i'w gofyn am benodiad Mr Lowe.

"Fy ymateb ar unwaith oedd bod llawer o gwestiynau sydd angen eu gofyn, er enghraifft beth oedd y broses o benodi Timothy Lowe i'r swydd hon?

"Rwy'n meddwl mai'r prif gwestiwn yw sut mae gennym ni rywun oedd yn gyfarwyddwr cyllid i Dawnus yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wrth galon un o'r prosiectau seilwaith mwyaf yma yng Nghymru nawr, er gwaethaf ei gefndir yn un o'r methiannau corfforaethol mwyaf yn hanes diweddar Cymru."

Cafodd Mr Lowe ei benodi'n gyfarwyddwr consortiwm Cymoedd y Dyfodol gan Fanc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ac sydd â chyfran o 15% yn y cynllun ffordd.

Mae'n darparu gwasanaethau monitro ar y prosiect i Lywodraeth Cymru.

'Testun y gwiriadau arferol'

Dywedodd llefarydd: "Mr Lowe yw unig ddarparwr gwasanaethau ymgynghorol y Banc Datblygu ar y prosiect, gan fonitro rhannau pump a chwech o'r A465.

"Mae'r monitro'n cynnwys darparu diweddariadau i'r Banc Datblygu yn dilyn cyfarfodydd bwrdd ar gynnydd cyffredinol, adroddiadau bwrdd a materion risg allweddol.

"Mae'r diweddariadau hyn yn llywio'r adroddiad chwarterol a ddarperir gan y Banc Datblygu i Lywodraeth Cymru ar ei rhan yn y prosiect.

"Bu penodiad Mr Lowe yn destun y gwiriadau arferol i sicrhau ei addasrwydd i'r rôl, gan gynnwys y gallu i wasanaethu fel cyfarwyddwr cwmni.

"Roeddem - ac rydym yn parhau i fod - yn hyderus yn ei allu i gyflawni ei ddyletswyddau ymddiriedol.

"Ers ei benodiad ym mis Hydref 2020, mae'r gwaith ar rannau pump a chwech o'r A465 y mae'r Banc Datblygu yn gyfrifol amdani, wedi symud ymlaen yn ôl y disgwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Collodd Brad Kay tua £50,000 ar ôl i'w gwmni weithio i Dawnus

Fodd bynnag, mae ei benodiad hefyd wedi cael ei gwestiynu gan un o'r contractwyr a gollodd ddegau o filoedd o bunnoedd.

Collodd Brad Kay, perchennog Poplar Tree Landscapes, contractwr o ganolbarth Lloegr, tua £50,000 am waith a wnaeth ei gwmni i Dawnus ar y cyswllt rheilffordd HS2.

Dywedodd ei fod wedi achosi llawer iawn o straen, gan ychwanegu: "Rydyn ni'n rhedeg yn dynn iawn felly nid oes arnom ni lawer o arian i gwmnïau.

"Does gennym ni ddim gorddrafft, rydyn ni'n synhwyrol iawn. Felly, yn ffodus, roedden ni wedi cael yr arian wrth gefn yn y banc i amddiffyn y cwmni, ond fe gafodd y straen ohono effaith fawr, nosweithiau di-gwsg, poeni pa gwmnïau eraill fyddai'n mynd i'r wal.

"Roedd yna gwmni arall oedd yn agos iawn at fynd i'r wal ac roedd arnyn nhw tua £100,000 i ni."

Mewn perthynas ag apwyntiad Mr Lowe, dywedodd: "Dwi ddim yn meddwl y dylai gael ei ganiatáu."

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Dawnus i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2019, gan ddod â 44 o brosiectau i ben

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg fod rhiant-gwmni Dawnus yn destun ymchwiliad i ganslo 12,000 o gyfranddaliadau, dri mis cyn i'r cwmni fynd i'r wal.

Dywedodd y gweinyddwyr, Grant Thornton, eu bod wedi trosglwyddo'r mater i dîm o gyfreithwyr i ymchwilio ymhellach.

Mewn adroddiad cynnydd ar y broses weinyddu, dywedodd Grant Thornton: "Rydym wedi nodi trefniant prynu cyfranddaliadau yn ôl, rhwng Dawnus Group Ltd a rhai cyfarwyddwyr, a gafodd ei sbarduno yn y flwyddyn cyn gweinyddu."

Cafodd y cyfranddaliadau eu canslo ym mis Tachwedd 2018, ar adeg pan oedd y cwmni eisoes mewn trafferthion ariannol difrifol ac wedi derbyn benthyciad brys o £3.5m gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r BBC yn deall mai'r rheswm dros yr ymchwiliad yw sefydlu a arweiniodd unrhyw ran o ganslo'r cyfranddaliadau at lai o arian ar gael i'r rhai yr oedd arian yn ddyledus iddynt pan gwympodd Dawnus.

Pan holwyd ef, ni wnaeth Mr Lowe sylw ar y rhesymau dros ganslo'r cyfranddaliadau, gan ddweud y byddai'n amhriodol gan ei fod yn nwylo cyfreithwyr.

Ar gwestiwn ei addasrwydd ar gyfer y rôl fel cyfarwyddwr Cymoedd y Dyfodol dywedodd: "Bydd rhaid i chi siarad â'r bobl wnaeth fy newis i."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn darparu cyllid i Fanc Datblygu Cymru, fel ei fod yn gallu gweithredu fel cyfranddaliwr sector cyhoeddus mewn cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol.

"Os yw'n penderfynu gwneud hynny, ar ôl cyflawni ei ddiwydrwydd dyladwy ei hun, mae'n penodi cyfarwyddwr i'r bwrdd, fel sy'n digwydd yma."