'Dim cau'r drws ar rai newydd' wrth i ffordd ddadleuol agor

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan ddiweddaraf ffordd Blaenau'r Cymoedd ar yr A465 rhwng Brynmawr a Gilwern wedi agor yn ddiweddar

Mae Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil yn dweud nad ydyn nhw am weld y "drws yn cau" ar gynlluniau adeiladu ffyrdd yng Nghymru.

Yn gynharach eleni cafodd pob cynllun ffordd newydd ei hatal wrth i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad ohonyn nhw.

Mae'r llywodraeth yn awyddus i roi'r gorau i wario ar gynlluniau sy'n annog mwy o bobl i yrru.

Mae'r gwaith ar ran ddiweddaraf ffordd Blaenau'r Cymoedd ar yr A465 rhwng Brynmawr a Gilwern wedi bod yn ddadleuol.

Yn ogystal â bod dros dair blynedd yn hwyr a thros £110m yn ddrutach na'r cynllun gwreiddiol, mae'r pandemig a phroblemau gyda'r dirwedd wedi cyfrannu at yr oedi a phobl yr ardal wedi wynebu rhwystredigaeth wrth deithio yn lleol.

Ond yn ôl Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil, mae angen ystyried cost gwaith o'r fath dros gyfnod hir iawn a meddwl am anghenion ardaloedd gwahanol.

Mae Eifion Davies yn gyn-faer ar dref Brynmawr a'n meddwl bod y ffordd newydd yn llawer mwy cyfleus i bobl yr ardal.

"O'r diwedd, ar ôl saith mlynedd mae e wedi agor ac mae pethau'n fwy cyfleus nawr.

"'Dan ni'n gallu dod i mewn i Frynmawr heb fynd i Lyn Ebwy yn gynta' wrth ddod o'r Fenni er enghraifft. Pan ddoth fy chwaer a'i gŵr i lawr ro'n nhw 'di mynd ar goll yn llwyr.

"Gyda'r ffordd nawr ar agor 'da ni'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn dechrau dod mewn i'r dre a dechrau defnyddio beth sydd gyda ni yma, ond ar y llaw arall mae'r ffordd mor gyfleus mae'n ddigon posib y bydd pobl yn penderfynu mynd i drefi eraill a mynd heibio Brynmawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Jenkins yn gobeithio bydd mwy o bobl yn dod i Frynmawr yn dilyn agoriad rhan newydd y ffordd

Mae Ffion Jenkins yn gweithio mewn campfa ym Mrynmawr ac mae hi'n gobeithio y bydd hi'n haws i bobl gyrraedd atyn nhw o hyn ymlaen.

"Nawr fod e ar agor gobeithio bydd pobl yn gallu gwneud taith 10 munud a jyst popio i fyny.

"Mae pawb yn gallu dod lan o'r Fenni, Glyn Ebwy, Tredegar a Merthyr mewn 10 munud nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Evans yn gobeithio bydd pobl yn gallu teithio rhwng Y Fenni a Brynmawr yn haws

Yn ôl Charlotte Evans, o gwmni hyfforddiant Sgiliau, mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r staff ac i'r bobl ifanc sy'n cael hyfforddiant oherwydd diffyg ffyrdd cyfleus.

"Oherwydd roedd y traffig mor drwm do'n nhw methu cyrraedd placements ar amser. Felly roedd hwnna'n straen arnyn nhw.

"R'yn ni wedi gwastraffu llawer o amser yn symud o swyddfa i swyddfa ac roedd yn rhaid gwneud yr amser yna nôl yn y tŷ.

"Dwi'n meddwl bydd busnesau yn y Fenni a Brynmawr yn gallu mynd 'nôl i normal nawr a gobeithio bydd pobl yn gallu teithio rhwng Merthyr a'r Fenni yn haws."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith ar yr A465 wedi bod yn ddadleuol

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod hi'n ymwybodol fod y gwaith wedi achosi trafferth i bobl leol ond maen ffyddiog y bydd yr ardal yn elwa.

Mae cost y gwaith wedi cynyddu o £223m i £336m ac mae'r llywodraeth wedi cael ei beirniadu am y modd mae'n talu am ran arall o'r gwaith ar hyd ffordd yr A465.

Ond yn ôl Ed Evans o Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru mae angen ystyried cost gwaith o'r fath dros gyfnod hir iawn.

"Os ydach chi'n edrych dros 25 mlynedd, 30 mlynedd, mae'r gwerth wedyn yn dod fewn o ran swyddi, o ran datblygiad economaidd a hefyd o ran hwyluso pethau i bobl leol symud o gwmpas yr ardal."

Dyfodol cynlluniau ffyrdd?

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wario llai ar adeiladu ffyrdd mewn ymgais i gyrraedd targedau amgylcheddol.

Bydd ffordd osgoi Llanbedr yn Sir Feirionnydd ddim yn cael ei hadeiladu o ganlyniad.

Mae Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil yn dadlau y bydd pobl dal yn ddibynnol ar y car am flynyddoedd a bod angen edrych ar anghenion ardaloedd gwahanol.

"Mae'n hawdd iawn teithio mewn bws neu ar drên mewn ardaloedd trefol," meddai Mr Evans.

"Cerwch chi i lefydd fel Llanbedr yn Sir Feirionnydd ac mae'n hollol wahanol. Felly 'dan ni angen o leia' ddau ymateb i'r her yma sydd gyda ni.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwaith nawr yn dechrau ar ran nesaf ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Dowlais a Hirwaun

"Mae 'na argyfwng newid hinsawdd. Mae'n rhaid i lywodraethau i gyd symud yn sydyn.

"Y peth pwysig ydi iddyn nhw fynd â busnesau hefo nhw, rhoi'r arweinyddiaeth, bod yn glir beth sydd o'n blaenau ni, gweithio hefo diwydiant i helpu'r diwydiant newid.

"Beth sy'n digwydd weithiau ydi mae'r drws yn cau a neb â syniad be' sy'n digwydd nesa'. Dyna be' 'da ni ddim angen fel diwydiant."

Er bod y gwaith ym Mrynmawr ar ben, mae'r gwaith bellach wedi dechrau rhwng Dowlais a Hirwaun gan olygu fod yna dipyn o ffordd i fynd cyn bod modd symud yn hawdd ar hyd ffordd Blaenau'r Cymoedd.