Teyrngedau i Mike Pearson o fyd y theatr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r Athro Mike Pearson, un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol ar y theatr yng Nghymru dros y 50 mlynedd diwethaf.
Ar ddiwedd ei yrfa roedd yn Athro Emeritws yn adran Theatr, Ffilm ac Astudiaethau teledu Prifysgol Aberystwyth.
Ond dechreuodd wneud ei farc ar y theatr tra'n astudio gradd mewn archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddechrau'r 1970au.
Aeth ymlaen i sefydlu a bod yn rhan o sawl cwmni arloesol ar y pryd, gan gynnwys RAT Theatre, Cardiff Laboratory Theatr a chwmni Brith Gof.
Un sy'n cydnabod dylanwad Mike Pearson ar ei yrfa yw cyfarwyddwr artistig cwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner.
"Ddois i ar ei draws e am y tro cynta' yn 1979 pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ar y pryd roeddwn i wedi dadrithio gyda pha mor gonfensiynol oedd y theatr yng Nghymru," meddai.
"Mi wnaeth Mike Pearson agor fy llygaid i a llygaid nifer o bobl i be' all theatr fod, nid er enghraifft yn rhywbeth confensiynol sy' 'di sgriptio, ond yn theatr ymchwilgar o ran strwythur ac arddull."
'Agor meddyliau'
Bu Jeremy Turner yn gweithio am gyfnod gyda Mike Pearson yng nghanolfan y celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.
"Aethon ni yn syth o'r brifysgol i fwrlwm y Chapter. Ro'dd y lle ar y pryd yn dân o syniadau newydd, a nifer o gwmnïau bach yno yn creu impact eitha' dylanwadol a chryf.
"Hau hadau oedd Mike, a phobl yn cael eu dylanwadu yn eu ffordd eu hunain. Roedd yn un o'r rhai wnaeth agor meddyliau ein cenhedlaeth ni, yn benna' y rhai oedd yn chwilio am ffyrdd newydd i ddiffinio Cymru drwy theatr."
Un o'r cwmnïau amgen enwocaf yn y theatr Gymraeg yw cwmni Brith Gof.
Roedd Mike Pearson yn un o bedwar ddechreuodd y cwmni, fu'n perfformio o 1981 tan 1997, gydag Eddie Ladd yn rhan o'r cynyrchiadau am 10 mlynedd.
"Ges i'n nysgu gan Brith Gof, sef Mike a Lis Hughes-Jones, pan o'n i'n coleg yn Aberystwyth ddechrau'r 80au," meddai.
"Er ein bod ni'n cael ein hyfforddi mewn disgyblaeth oedd yn gwbl newydd i fi - theatr gorfforol yr oedd y cwmni eu hunain wedi ei ddysgu oddi wrth theatr Bwyleg - ges i erioed yr argraff ganddyn' nhw fod y diwylliant yr oeddwn i wedi ei fagu ynddo yn llai 'perthnasol' i'r byd modern."
Cyfoeth magwreth
Ychwanegodd: "Rwy'n cofio iddo ddweud wrthym ni, oedd yn ddosbarth cyfrwng Cymraeg, am i ni ddefnyddio cydadrodd yn ein darnau.
"Roedd yn ffurf yr oeddwn innau yn ei gyfri' yn gapelog ac eisteddfodol, ond fe wnaeth i fi ei ystyried o'r newydd.
"Roedd holl gyfoeth ein magwraeth yn cyfri' ac yn cael ei blethu gyda theatr flaengar y cyfandir. Nid oedd pwyslais Mike a'r cwmni ar theatr Seisnig a chlasurol.
"Dysgais ddyfeisio a sgwennu yn Gymraeg a gosod gwaith mewn safleoedd neilltuol, megis yr awyr agored, siediau mawrion a bychain, ysguboriau, capeli ac yn y blaen - theatr amgen mewn llefydd amgen.
"Dylanwadodd nifer o aelodau Brith Gof ar fy ngwaith fy hun ac roedd Mike yn un o'r sawl ddysgodd bron popeth i fi yr wyf yn ei ymarfer tan heddiw."
'Cyfraniad aruthrol'
Yn fwy diweddar roedd Mike Pearson yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu rhai o gynyrchiadau mwyaf beiddgar National Theatre Wales, gan gynnwys cynhyrchiad o Coriolanus yn Sain Tathan yn 2012.
Yn wreiddiol o Sir Lincoln, bu Mike Pearson yn byw yng Nghymru ers iddo fynd i Brifysgol Caerdydd ar ddiwedd y 60au, gan rannu ei amser rhwng Aberystwyth a'i gartref yng Nghaerdydd gyda'i wraig Heike.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth yr Athro Emeritws Mike Pearson.
"Bu ei gyfraniad i fyd y theatr - fel aelod o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu'r Brifysgol ac fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr blaengar - yn aruthrol gan roi theatr Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
"Bu'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o fyfyrwyr a fu'n astudio yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mi fydd cynyrchiadau Brith Gof megis Pax a'r Gododdin yn parhau yn y cof am eu cynnwys gweledol trawiadol a heriol, a'r profiadau eithriadol yr oedd ei gynyrchiadau yn eu cynnig i'r gynulleidfa.
"Estynnwn ein cydymdeimladau dwys at ei wraig Heike, sydd hefyd yn gyn-aelod staff yma ym Mhrifysgol Aberystwyth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021