Criced: Middlesex yn trechu Morgannwg o bedair wiced
- Cyhoeddwyd

Toby Roland-Jones arweniodd ymosodiad Middlesex yn erbyn Morgannwg brynhawn Sul
Wedi'r golled yn Surrey nos Wener, colli eto yn ne nwyrain Lloegr oedd tynged Morgannwg brynhawn Sul.
Gyda'r ymwelwyr wedi gosod nod o 168, llwyddodd Middlesex i ennill o bedair wiced.
Toby Roland-Jones oedd seren y sioe i'r tîm cartref (4/22) wrth i'w rhediad di-guro barhau efo chwe phêl i'w sbario.
Ond ni ddaeth capten Lloegr, Eroin Morgan, allan i fatio yn dilyn anaf tra allan ar y maes.
Bydd gêm nesaf Morgannwg nos Iau pan fydd Essex Eagles yn teithio i Erddi Sophia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022