Teyrnged teulu menyw a fu farw wedi gwrthdrawiad â bws
- Cyhoeddwyd

Roedd Sheri Omar yn chwaer, modryb a hen fodryb annwyl, medd ei theulu
Mae teulu menyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol Caerdydd dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Sheri Omar yn 63 oed ac yn byw yn ardal Adamsdown y ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gyffordd rhwng gwaelod Stryd y Frenhines a Phlas Dumfries toc cyn hanner dydd ddydd Sadwrn wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerddwr a bws.
Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Omar, oedd yn un o wyth o blant, ei bod "yn chwaer dra hoff" a fydd yn aros yn eu cof am byth.

Gweithwyr brys yn ymateb wedi'r gwrthdrawiad
"Heddiw, fel teulu, rydym wedi ein dryllio, ac mae ein calonnau'n torri wrthi inni alaru dros golli ein chwaer, modryb a hen fodryb annwyl dan amgylchiadau mor drasig."
Mae'r teulu hefyd wedi mynegi "diolch i unrhyw un a stopiodd i helpu" gan ddweud bod hynny "wir yn cael ei werthfawrogi".
Mae Heddlu De Cymru'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac maen nhw'n apelio ar bobl sydd heb gysylltu â nhw eisoes i wneud hynny os roedden nhw'n dyst i'r gwrthdrawiad neu'n gallu cynnig lluniau dash cam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2022